Copy

Cerddwyr Cylch Teifi

Dof mewn niwl, dof mewn heulwen,
A dof drwy’r glaw yn llawen –
Awn i gyd, pob un â gwên.
Terwyn

Cerddwyr Cylch Teifi

8 Ionawr 2022 - Ardal Mynachlog-ddu

Carn Menyn a Charn Alw - Llun gan Dylan Moore [Comins Creadigol]

Annwyl Bawb,

Gobeithio byddwch chi’n gallu dod i ymuno â ni ar ein taith ddydd Sadwrn nesaf. Sylwch fod ardal y daith wedi newid ychydig. Isod, mae’r manylion llawn am y daith, a'n canllawiau diogelwch. 

O ystyried sefyllfa Omicron, gofynnwn i bawb gadw draw os nad ydynt wedi cael y tri brechiad neu, fel arall, brawf llif unffordd negyddol wedi’i gymryd yn y 48 awr cyn y daith. Cofiwch fod symptomau Omicron yn gallu bod yn fwy tebyg i annwyd nag i symptomau arferol Covid-19 (sef tymheredd uchel, peswch cyson, newydd, neu golli eich synnwyr arogli neu flasu). 

Cofion gorau,
Philippa

Cerddwyr Cylch Teifi
Sadwrn 8 Ionawr 
Ardal Mynachlog-ddu
Arweinydd: Hefin Wyn


Gadael y maes parcio am 10.30

Taith ddwy awr o ryw 3.5 milltir ar hyd heol dawel, wastad a chadarn ond un sy’n agored i’r gwynt (700 troedfedd uwch y môr). Cychwyn o’r maes parcio ar bwys Cofeb Waldo (SN 135 303) ar Ros Fach ryw hanner milltir i’r gorllewin o Fynachlog-ddu ar yr heol i Ros-y-bwlch (Rosebush). (Y cod post agosaf ar gyfer Satnav yw SA66 7SN ond nid yw'n arwain at yr union fan). Cerdded ar yr heol honno mor bell â Fferm Glynsaithmaen (safle meini hirion) ac wedyn yn ôl yr un ffordd. Golygfa hyfryd i’r de dros Sir Benfro drwy’r daith.

 

RHAGLEN 2021 - 22 (HYD YN HYN)

Bydd pob taith yn para rhyw 2 awr, gan ddechrau am 10.30yb.
  • Sadwrn Hydref 9fed yn ardal Llandudoch, gyda Terwyn Tomos yn arwain
     
  • Sadwrn Tachwedd 13eg yn dechrau yn y Ganolfan Bywyd Gwyllt, Cilgerran, gyda Howard Williams yn arwain
     
  • Sadwrn Rhagfyr 4ydd yn dechrau yn Aberteifi a cherdded ar hyd yr afon. gyda Siân Bowen yn arwain
  • Sadwrn  Ionawr 8fed yn ardal Mynachlog-ddu gyda Hefin Wyn yn arwain

  • Chwefror - Rydym yn disgwyl bydd taith Sadwrn 12fed ond nid yw'r manylion ar gael eto. Rhoddwn wybod nes ymlaen.

Ond wrth gwrs os bydd rheolau Cymru am Covid yn newid, bydd angen inni addasu neu ganslo teithiau. Rhoddwn wybod i chi trwy e-bost. Ni fyddwn yn trefnu man i gymdeithasu ar ôl y teithiau er mwyn peidio annog pobl i gwrdd dan do, ond gallwch wneud fel y mynnwch wrth gwrs.

Bydd e-bost gyda’r manylion llawn am bob taith yn dod atoch chi wythnos cyn y daith bob tro. Ond hoffwn eich annog i ddarllen y nodiadau isod am ddiogelwch rhag Covid a diogelwch rhag damweiniau ar y teithiau cyn i chi ddod ar y teithiau.

IECHYD A DIOGELWCH

Cofiwch mai chi sy’n gyfrifol am eich iechyd a diogelwch eich hunain.

Diogelwch rhag Covid-19

Ers 26 Rhagfyr, oherwydd sefyllfa newydd Covid gyda’r amrywiolyn Omicron, mae Cymru oll ar lefel rhybudd 2. https://llyw.cymru/coronafeirws

Gofynnir i’n cerddwyr:
  • gadw draw os nad ydych wedi cael y brechiadau i gyd sydd ar gael ichi, neu, fel arall, brawf llif unffordd negyddol wedi’i gymryd yn y 48 awr cyn y daith
  • geisio cadw rhyw bellter cymdeithasol rhesymol oddi wrth gerddwyr sy’n perthyn i aelwydydd eraill;
  • ac wrth gwrs, peidio â dod i daith os ydych chi’n: 
    • hunan-ynysu, neu
    • dangos unrhyw symptom sy’n gysylltiedig â’r haint gan gofio fod symptomau Omicron yn gallu bod yn fwy tebyg i annwyd nag i symptomau arferol Covid-19 (sef tymheredd uchel, peswch cyson, newydd, neu golli eich synnwyr arogli neu flasu).

Diogelwch ar deithiau – rhag damweiniau

  • darllenwch fanylion y daith i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol;
  • dewch â dillad addas gan ystyried adeg y flwyddyn a rhagolygon y tywydd, yn enwedig esgidiau cymwys i dir gwlyb ac anwastad;
  • cadwch gysylltiad â gweddill y criw trwy aros o flaen y trefnydd a fydd wrth gefn y rhes o gerddwyr;
  • hysbyswch drefnydd os gadewch chi’r daith yn gynnar;
  • cadwch gŵn ar dennyn;
  • cymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded: 
    • ar hyd ffyrdd heb balmant;
    • ar lethrau serth;
    • ar lwybrau lle mae disgyniad ar un ochr fel yn aml ar lwybrau’r arfordir
Rhannwch Rhannwch
Trydarwch Trydarwch
Anfonwch at ffrind Anfonwch at ffrind
Cyhoeddwyd gan dysgu.com yn 2022, dan drwydded Comins Creadigol.
Erys hawlfraint y lluniau gyda'r ffotograffwyr gwreiddiol. 




darllen ar y we / read on the web

dat-danysgrifio o'r rhestr / unsubscribe from this list   

diweddaru dewisiadau tanysgrifio / update subscription preferences 

Email Marketing Powered by Mailchimp