Copy

Cerddwyr Cylch Teifi

Dof mewn niwl, dof mewn heulwen,
A dof drwy’r glaw yn llawen –
Awn i gyd, pob un â gwên.
Terwyn

Cerddwyr Cylch Teifi

12 Chwefror 2022 - Ardal Llangrannog

Annwyl Bawb,

Gobeithio byddwch chi’n gallu dod i ymuno â ni ar ein taith ddydd Sadwrn nesaf. Isod, mae’r manylion llawn am y daith, a'n canllawiau diogelwch. 

O ystyried sefyllfa Omicron, gofynnwn i bawb gadw draw os nad ydynt wedi cael y tri brechiad neu, fel arall, brawf llif unffordd negyddol wedi’i gymryd wedi’i gymryd ychydig cyn y daith. Cofiwch fod symptomau Omicron yn gallu bod yn fwy tebyg i annwyd nag i symptomau arferol Covid-19 (sef tymheredd uchel, peswch cyson, newydd, neu golli eich synnwyr arogli neu flasu). 

Cofion gorau,
Philippa

Dear All,

We hope you will be able to join us for our walk next Saturday. Below are full details of the walk, information about the programme so far, and our safety guidelines.

Given the Omicron situation, we ask that everyone stay away if they have not had all three vaccinations or, alternatively, a negative lateral flow test taken shortly before the walk. Remember that Omicron symptoms can be more like a cold than Covid-19's normal symptoms (high temperature, constant, new cough, or loss of sense of smell or taste).

Best wishes,
Philippa

Cerddwyr Cylch Teifi
Sadwrn 12 Chwefror
Ardal Llangrannog
Arweinydd: Dafydd Davies

Gadael Maes Parcio uchaf Llangrannog, SN 316 538 (cod post agosaf SA44 6RL), am 10.30 yn brydlon.

Y daith
Taith gylch ddwy awr o ryw dair milltir. Awn ni’n gyntaf lawr i’r Eglwys ac wedyn lan at Wersyll yr Urdd ar yr heol.  Cyn cyrraedd y Gwersyll fe drown ni’n syth i’r chwith, dringo i ben y caeau gweddol serth ar ochr orllewinol y Gwersyll a throi i’r gorllewin am sbel ar lwybr yr arfordir cyn ei adael ar y trac sy’n mynd uwchben Fferm Lochtyn ac yn ôl i heol y pentref ychydig islaw’r Eglwys.  Wedyn yn ôl ar yr heol i’r maes parcio. Esgyniad: tua 350 troedfedd, yn bennaf trwy’r caeau serth (all fod yn fwdlyd hefyd).

Pwyntiau o ddiddordeb
Yr Eglwys a bedd a chofgolofn Cranogwen yn y fynwent, Gwersyll yr Urdd, Pendinas Lochtyn, golygfeydd arbennig trwy gydol y daith, dolffiniaid ac adar.

Cerddwyr Cylch Teifi Walkers
Saturday 12 February
Llangrannog area
Leader: Dafydd Davies

Leave Llangrannog Upper Car Park, SN 316 538 (nearest post code SA44 6RL), at 10.30 prompt.

The walk
A two hour circular walk of about three miles. We’ll go down to the Church first and then up to the Urdd Camp on the road. Before reaching the Camp we turn immediately left, climb to the top of the relatively steep fields on the west side of the Camp and head west for a while on the coast path before leaving it on the track above Lochtyn Farm and back to the village road just below the Church. Then back on the road to the car park. Ascent: about 350 feet, mainly through the steep fields (which can also be muddy).

Points of interest
The church and Cranogwen's grave and memorial in the cemetery, the Urdd Camp, Pendinas Lochtyn, wonderful views throughout the walk, dolphins and birds.

RHAGLEN 2021 - 22 (HYD YN HYN)

Bydd pob taith yn para rhyw 2 awr, gan ddechrau am 10.30yb.
  • Sadwrn Hydref 9fed yn ardal Llandudoch, gyda Terwyn Tomos yn arwain
     
  • Sadwrn Tachwedd 13eg yn dechrau yn y Ganolfan Bywyd Gwyllt, Cilgerran, gyda Howard Williams yn arwain
     
  • Sadwrn Rhagfyr 4ydd yn dechrau yn Aberteifi a cherdded ar hyd yr afon. gyda Siân Bowen yn arwain
  • Sadwrn  Ionawr 8fed yn ardal Mynachlog-ddu gyda Hefin Wyn yn arwain

  • Sadwrn Chwefror 12fed yn Llangrannog gyda Dafydd Davies yn arwain
     
  • Sadwrn Mawrth 12fed - Cwm Gwaun gyda Judith Wainwright 
     
  • Sadwrn Ebrill 2il - Trefdraeth gyda Hedd Ladd Lewis

Ond wrth gwrs os bydd rheolau Cymru am Covid yn newid, bydd angen inni addasu neu ganslo teithiau. Rhoddwn wybod i chi trwy e-bost. Ni fyddwn yn trefnu man i gymdeithasu ar ôl y teithiau er mwyn peidio annog pobl i gwrdd dan do, ond gallwch wneud fel y mynnwch wrth gwrs.

Bydd e-bost gyda’r manylion llawn am bob taith yn dod atoch chi wythnos cyn y daith bob tro. Ond hoffwn eich annog i ddarllen y nodiadau isod am ddiogelwch rhag Covid a diogelwch rhag damweiniau ar y teithiau cyn i chi ddod ar y teithiau.

PROGRAMME 2021 - 22 (SO FAR)

Each walk will last about 2 hours, starting at 10.30am.
  • Saturday October 9th in the St Dogmaels area, led by Terwyn Tomos
     
  • Saturday November 13th starting at the Wildlife Centre, Cilgerran, led by Howard Williams
     
  • Saturday December 4th starting in Cardigan and walking along the river. led by Siân Bowen
     
  • Saturday January 8th in the Mynachlog-ddu area with Hefin Wyn
     
  • Saturday February 12th at Llangrannog with Dafydd Davies leading
     
  • Saturday March 12th - Gwaun Valley with Judith Wainwright
     
  • Saturday April 2nd - Newport with Hedd Ladd Lewis
But of course if the Welsh rules about Covid change, we will need to adjust or cancel trips. We’ll let you know by email. We won’t arrange a place for socializing after the walks so as not to encourage people to meet indoors, but you can do as you please of course.

An email with the full details of each walk will be sent to you a week before the walk each time. But I would encourage you to read the notes below about Covid and accident protection before you come on the walks.

IECHYD A DIOGELWCH

Cofiwch mai chi sy’n gyfrifol am eich iechyd a diogelwch eich hunain.

Diogelwch rhag Covid-19

Gofynnir i’n cerddwyr:
  • gadw draw os nad ydych wedi cael y brechiadau i gyd sydd ar gael ichi, neu, fel arall, brawf llif unffordd negyddol wedi’i gymryd yn y 48 awr cyn y daith
  • geisio cadw rhyw bellter cymdeithasol rhesymol oddi wrth gerddwyr sy’n perthyn i aelwydydd eraill;
  • ac wrth gwrs, peidio â dod i daith os ydych chi’n: 
    • hunan-ynysu, neu
    • dangos unrhyw symptom sy’n gysylltiedig â’r haint gan gofio fod symptomau Omicron yn gallu bod yn fwy tebyg i annwyd nag i symptomau arferol Covid-19 (sef tymheredd uchel, peswch cyson, newydd, neu golli eich synnwyr arogli neu flasu).

Diogelwch ar deithiau – rhag damweiniau

  • darllenwch fanylion y daith i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol;
  • dewch â dillad addas gan ystyried adeg y flwyddyn a rhagolygon y tywydd, yn enwedig esgidiau cymwys i dir gwlyb ac anwastad;
  • cadwch gysylltiad â gweddill y criw trwy aros o flaen y trefnydd a fydd wrth gefn y rhes o gerddwyr;
  • hysbyswch drefnydd os gadewch chi’r daith yn gynnar;
  • cadwch gŵn ar dennyn;
  • cymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded: 
    • ar hyd ffyrdd heb balmant;
    • ar lethrau serth;
    • ar lwybrau lle mae disgyniad ar un ochr fel yn aml ar lwybrau’r arfordir

HEALTH AND SAFETY

Remember that you are responsible for your own health and safety.

Protection from Covid-19

Our walkers are asked to:
  • stay away if you haven’t had all the vaccinations which are available to you or, alternatively, a negative lateral flow test taken in the 48 hours before the walk. 
  • try to keep some reasonable social distance from walkers from other households;
  • and of course, don't come to a walk if you are:
    • self-isolating, or
    • showing any symptom associated with the infection, bearing in mind that  Omicron symptoms can be more like a cold than Covid-19's normal symptoms (high temperature, constant, new cough, or loss of sense of smell or taste).

Safety on walks - from accidents
  • read the details of the walk to ensure that you are able to complete it without undue delay;
  • bring suitable clothing taking into consideration the time of year and weather forecasts, especially footwear suitable for wet and uneven terrain;
  • stay in touch with the rest of the group by keeping in front of the organizer who will be at the back of the line of walkers;
  • inform an organizer if you leave early;
  • keep dogs on a lead;
  • take special care when crossing roads and when walking:
    • along roads without pavements;
    • on steep slopes;
    • on routes where there is a descent on one side as is often the case on coastal paths
Rhannwch Rhannwch
Trydarwch Trydarwch
Anfonwch at ffrind Anfonwch at ffrind
Cyhoeddwyd gan dysgu.com yn 2022, dan drwydded Comins Creadigol.
Erys hawlfraint y lluniau gyda'r ffotograffwyr gwreiddiol. 




darllen ar y we / read on the web

dat-danysgrifio o'r rhestr / unsubscribe from this list   

diweddaru dewisiadau tanysgrifio / update subscription preferences 

Email Marketing Powered by Mailchimp