Copy
Digwyddiadau Cymraeg yn ardal Aberteifi
Welsh language events in the Cardigan area

Pethe Cylch Teifi

Digwyddiadau Cymraeg yn ardal Aberteifi. 
Welsh language events in the Cardigan area.

Llun yr Wythnos - gosodiad ar draeth Aberarth, gan Rebecca Wyn Kelly. Mae gwaith Rebecca yn rhan o arddangosfa tair menyw yn Oriel Canfas, Aberteifi ar hyn o bryd (tan 26 Mawrth). 
Pic of the Week - installation on Aberarth Beach, by Rebecca Wyn Kelly. Rebecca's work is currently part of a three-woman exhibition at Oriel Canfas, Aberteifi (until 26 March).

Pethe Newydd a Phigion
New Stuff a Quick Links

Beth sy'n newydd yn y cylchlythyr yr wythnos hon, ac ambell i bethach arall:
Shortcuts to new or updated items, and a few bits and bobs: 
 

Sgwrsio... a mwy!
Conversation... and more!

Mae sawl grŵp wedi dechrau cwrdd "yn y cnawd" eto. Allwch chi roi gwybod i ni os bydd eich grŵp yn dechrau cwrdd eto? Diolch! nic@dysgu.com

Dydy'r rhan fwya o grwpiau sgwrsio arferol ddim yn cwrdd ar hyn o bryd, ond mae llawer o gyfleoedd i ddysgwyr y Gymraeg gwrdd â'i gilydd a gyda Chymry Cymraeg a siaradwyr rhugl eraill bob wythnos. Os ydych chi'n gwybod am grwpiau eraill sy ddim yn y rhestr yma, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda. 
Some groups have started to meet "in the flesh" again. Please let us know if your local group will be starting meeting again. Diolch! nic@dysgu.com

Most of the usual conversation groups aren't meeting at the moment, but there are still lots of online opportunities for Welsh learners to meet each other and with fluent Welsh speakers every week. If you know of other groups not listed here, please let us know.
Dydd Llun
  • Clwb Darllen Sir Gâr - bob yn ail dydd Llun / every other Monday, 3.00pm - 4.00pm. Addas i lefel Mynediad 1 a 2, sesiwn hwyliog ar Zoom / Suitable for Entry 1 & 2 level, an informal Zoom meeting. (Cara Llywelyn-Davies cel19@aber.ac.uk)

Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener Dydd Sul

Digwyddiadau

Nos Wener, 11 Mawrth 2022
Drama, Felinfach: "Shirley Valentine"

Dewch i weld Shelley Rees sy’n serennu fel gwraig tŷ gyda phwysau’r byd ar ei hysgwyddau, yn mynd ar wyliau i Roeg ac yn darganfod llawer mwy yno na’r disgwyl yn y cyfieithiad newydd gan Y Consortiwm Cymraeg o gomedi wych Willy Russell, Shirley Valentine.

Tocynnau ar gael nawr
📆 11-03-2022
⏰ 7:30yh
🎟 01570 470697 | theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk

Canllaw Oed 14+

Gweithredir canllawiau Covid-19 a bydd mesurau pellhau cymdeithasol ar waith yn y digwyddiad.

(Manylion uchod oddi ar Facebook)

Welsh language adaption of Willy Russell's much-loved play.

Dydd Sadwrn, 12 Mawrth 2022
Cerddwyr Cylch Teifi - Cwm Gwaun

Cerddwyr Cylch Teifi
Sadwrn 12fed mis Mawrth
Ardal Cwm Gwaun
Arweinydd: Judith Wainwright

Gadael Maes Parcio Sychbant am 10.30 yn brydlon. Mae’r Maes Parcio ger y troad i Ffald-y-brenin yn y cwm, SN 045 349, cod post SA65 9UA. Mae’r lle parcio wrth waelod y trac.

Y daith
Taith gylch o ychydig llai na 3 milltir ac yn ddwy awr o hyd. O’r maes parcio awn ni ar hyd yr heol dawel i gyfeiriad Pont-faen am chwarter milltir ac ar lwybrau wedyn, yn gyntaf i’r chwith (cyn Dan Coed), lan i lethr serth Coed Tregynon ac ar ymyl uchaf y goedlan i lecyn uwchben y rhaeadr. Yma mae pont newydd wedi’i hadeiladu gan Ffrindiau’r Parc Cenedlaethol, lle bydd pobl yn gallu gweld y rhaeadr (mae’r grisiau’n serth ond bydd y rhan honno’n opsiynol). Wedyn byddwn ni’n dilyn y llwybr heibio Tregynon, i lawr y cwm ac ar hyd yr afon i gyrraedd y ffordd ger Llannerch gan ddychwelyd i’r maes parcio ar hyd ffordd wledig dawel.

Mae dringfa o ryw 250 troedfedd ar y llwybr serth trwy Goed Tregynon.  Mae’r llwybr yn fwdlyd mewn mannau.

Pwyntiau o ddiddordeb
Dyma daith gyntaf y Cerddwyr trwy Gwm Gwaun; cyfle am gipolwg da ar y rhaeadr, golygfeydd hardd dros Gwm Gwaun, blodau gwyllt cynnar y Gwanwyn, gwartheg Long Horn Carn Edward, ardal Gymraeg arbennig a hanesyddol sydd fel camu ’nôl mewn amser.

Nid yw trefnwyr y daith yn trefnu lle i gymdeithasu, oherwydd Covid, ond mae Tafarn Bessie yn weddol agos os bydd rhai am ddiod ar ôl cerdded (ond sylwer nad oes bwyd ar gael yno).

Cysylltwch â Philippa am fanylion pellach - philippa.gibson@gmail.com / 01239 654561

Cerddwyr Cylch Teifi Walkers
Saturday 12th March
Gwaun Valley area
Leader: Judith Wainwright


Depart Sychbant Car Park at 10.30 prompt. The Car Park is at the turning point of Ffald-y-brenin in the valley, SN 045 349, postcode SA65 9UA. The parking place is at the bottom of the track.

The walk
A circular walk of just under 3 miles and two hours in length. From the car park we take the quiet road towards Pont-faen for a quarter of a mile and then on footpaths, first left (before Dan Coed), up to the steep slope of Coed Tregynon and at the top edge of the woodland to a spot above the waterfall. Here a new bridge has been built by the Friends of the National Park, where people will be able to see the waterfall (the steps are steep but that section will be optional). We then follow the path past Tregynon, down the valley and along the river to reach the road near Llannerch and return to the car park along a quiet country road.

The steep path through Coed Tregynon has a climb of about 250 feet. The path is muddy in places.

Points of interest
This is the first time Cerddwyr Cylch Teifi has walked through the Gwaun Valley; a chance for a good view of the waterfall, beautiful views over the Gwaun Valley, early spring wildflowers, Carn Edward's Long Horn cattle, a special and historic Welsh area that feels like stepping back in time.

The organizers of the walk do not arrange a place to socialize, because of Covid, but the Bessie’s Inn is fairly close if anyone wants a drink after a walk (but note that food is not available there).

Contact Philippa for further details - philippa.gibson@gmail.com / 01239 654561

Nos Iau, 17 Mawrth 2022
CYD Llandysul - cwrdd yn fyw!

Neges gan Lesley, trefnydd y grŵp sgwrsio yn Llandysul:

Shw'mae Pawb?
Mae hi'n amser hir iawn ers inni cwrdd yn Y Porth ond mae'r amser wedi cyrraedd i wisgo i fyny, brwsio eich gwallt, a chwrdd unwaith eto.

Felly, ymunwch â ni am beint a sgwrs Nos Iau, Mawrth 17eg am 7.30yh yn Y Porth, Llandysul.

Mae’n debyg bod llawer o bethau i’w trafod, ond meddyliais y byddai’n haws pe bai gennym thema eto i roi cyfle i bawb i baratoi a siarad.

Thema y Mis hwn: “Beth ydych chi’n ei hoffi am y Gwanwyn?”

Mae croeso mawr i bawb ddod - yn enwedig i ddysgwyr newydd. Rhannwch os gwelwch yn dda.
A message from Lesley, organizer of the Llandysul Welsh chat group

Dear All,
It's been a long time since we met in Y Porth but the time has come to dress up, brush your hair, and meet again.

So, join us for a pint and a chat,  Thursday March 17th at 7.30pm at Y Porth, Llandysul.

There are probably lots of things to discuss, but I thought it would be easier if we had a theme again to give everyone a chance to prepare and talk.

This Month's Theme "What do you like about Spring?"

Dydd Sadwrn, 19 Mawrth 2022
Ar Gered - Bwlch Nant yr Arian

Ar Gered: y nod yw cynnal teithiau tywys Cymraeg misol yn Y Topie sef yr ardal hyfryd hynny sy’n llawn perlau cudd i’r gogledd o Aberystwyth. Mae cerdded llwybrau yr ardal hon yn llawn golygfeydd gogoneddus, hanes a chwedlau sydd yn rhoi llawer o bleser i mi ac rwy’n gobeithio gallu rhannu ychydig o hyn gyda chi dros y misoedd nesaf.

Taith gerdded gyntaf Ar Gered fydd yn ardal Bwlch Nant yr Arian a Llyn Blaenmelindwr ar fore dydd Sadwrn Mawrth 19eg.

Taith dywys Cymraeg yw hon o bedair milltir fydd yn cychwyn yn y ganolfan goedwigaeth boblogaidd ym Mwlch Nant yr Arian cyn cerdded ar hyd y grib gan weld golygfeydd ysblennydd o Ddyffryn Rheidol a llawer iawn mwy. Byddwn yn darganfod Llyn Blaenmelindwr sydd yn un o’r llynnoedd prydferth yn Y Topie cyn troi yn ôl am y goedwig er mwyn dal y barcutiaid cochion enwog yn cael eu bwydo a mwynhau dished a bach o ginio yn y caffi.

Taith cyfrwng Cymraeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg o bob lefel gan gynnwys siaradwyr newydd. Rhaid bwcio ymlaen llaw trwy ebostio Steffan.rees@ceredigion.gov.uk.
Ar Gered: the aim is to hold monthly Welsh language guided tours in "Y Topie" ("the tops"), which is a lovely area full of hidden gems north of Aberystwyth. Walking the trails in this area is full of glorious scenery, history and myths that give me great pleasure and I hope to be able to share some of this with you over the coming months.

Ar Gered's first walk will be in the area of ​​Bwlch Nant yr Arian and Llyn Blaenmelindwr on Saturday morning March 19th.

This is a four-mile Welsh guided tour that starts at the popular forestry center at Bwlch Nant yr Arian before walking along the ridge for spectacular views of the Rheidol Valley and much more. We'll discover Llyn Blaenmelindwr which is one of the beautiful lakes in Y Topie before heading back to the woods to catch the famous red kites feeding and enjoying a lunch and and a cuppa at the café.

A Welsh medium tour for Welsh speakers of all levels including new speakers. Booking is essential by emailing Steffan.rees@ceredigion.gov.uk.

Nos Sadwrn, 19 Mawrth 2022
Gig: Cynefin yn y Pwerdy

CYNEFIN
Cefnogaeth gan MAYA

Y Pwerdy, Pont-tyweli, nos Sadwrn, 19 Mawrth 2022, 7.30yh

£8 neu £6 (consesiwn)

Tocynnau o Siop Ffab neu wrth y drws (arian parod yn unig)

Dim Bar – Dewch â'ch potel eich hun.
CYNEFIN
Support from MAYA

Y Pwerdy, Pont-tyweli, Saturday 19th March, 7.30pm, 

£8 or £6 (concession)

Tickets from Siop Ffab or on the door (cash only).
No bar – BYOB
Cynefin - Lliw'r Ceiroes

Nos Sul, 20 Mawrth 2022
Lansiad - Darganfod Stori

Ydych chi'n chwilio am rywbeth newydd wrth ddysgu Cymraeg? Hoffech chi brofi antur a datblygu sgiliau creadigol yn Gymraeg. Dyma'ch cyfle... dewch ar daith i ddod yn adroddwr storïau: eich straeon chi!

Cyfres i weithdai yn ystod y flwyddyn, wyneb yn wyneb ac ar-lein, gydag opsiwn i berfformio.

Lansiad: 20 Mawrth 2022

I ddatgan diddordeb cysylltwch â Nia storidda@gmail.com neu lenwi'r ffurflen hon.
Are you an adventurous Welsh learner? Would you like to explore Cymraeg creatively? Would you like to come on a journey to become a teller of your own tales, in Welsh!

A series of workshops in person and online, with an optional performance platform.

Launching: 20 March 2022

To register an interest, contact Nia storidda@gmail.com or fill in this form.

Nos Wener, 25 Mawrth 2022
Gig y Seler: HMS Morris / Eädyth / Y Dail

Bar y Seler, Stryd y Cei, Aberteifi. Nos Wener, 25 Mawrth 2022, drysau yn agor am 7.00. Yn rhad ac am ddim!

(manylion isod oddi ar Facebook)

I ddathlu Dydd Miwsig Cymru eleni, mae Clwb Ifor Bach a Miwsig wedi trefnu taith arbennig o amgylch Cymru. Felly dewch i'r Seler ar 25 Mawrth i fwynhau gwledd o gerddoriaeth gan rhai o artistiaid gorau Cymru.
Cellar Bar, Quay Street, Cardigan. Friday, 25 March 2022, doors open at 7.00. Free entry!

(details below from Facebook)

To celebrate Welsh Language Music day this year, Clwb Ifor Bach and Miwsig have planned a special tour around Wales. So come to the Cellar Bar in Cardigan on 25th March to enjoy some of the best music coming out of Wales right now. 
 

Nos Iau, 7 Ebrill 2022
Clwb Hanes - Dr Elin Jones

Y bwriad yw cwrdd unwaith y mis ar-lein ar un ai nos Iau neu fore Gwener, gan ddibynnu ar argaeledd y siaradwyr gwadd, a bydd y sesiynau hyn yn addas i ddysgwyr lefel Uwch a Hyfedredd a dysgwyr da ar lefel Canolradd.

Bydd cyfle i holi cwestiynau ar ddiwedd pob sesiwn.
Er mwyn derbyn manylion cysylltu, cysylltwch â Richard Vale (riv1@aber.ac.uk).

Yr hanesydd Dr Elin Jones fydd ein siaradwr am 7 y.h. ar nos Iau y 7fed o Ebrill.  Bydd Dr Jones yn cyflwyno Hanes yn y Tir, ei llyfr newydd.
 

Dyma’r ddolen:

https://zoom.us/j/96220974441?pwd=ZGs3OVFtM2NIT0ZWdTR0YTk5N2FPdz09

Croeso cynnes i bawb. Nid oes angen cofrestru.

A monthly History Club, meeting online with a different guest speaker every month. Suitable for learners at lefelau Uwch ac Hyfedredd.

11 a 12 Ebrill 2022
Cwrs Pasg Ar-lein

Cwrs ar-lein ar gyfer dysgwyr o bob lefel, gan gynnwys Cwrs Blasu i ddechreuwyr pur (dwedwch wrth eich ffrindiau!)

Rhaid cofrestru ymlaen llaw trwy dilyn y dolenni ar y daflen hon.
An online course for Welsh learners of all levels, including a Taster Course for complete beginners (tell your friends!)

Please register in advance by following the links on this leaflet.

Adnoddau Ar-lein
Online Resources

Byddwn ni'n ychwanegu pethau newydd at frig y rhestr yma, a byddan nhw mewn teip du
We'll add any new links to the top of this list, and they will be in black type

Gwaith Cartre

Er ei bod yn eithaf tebyg na fydd llawer o Eisteddfodau yn digwydd go iawn am sbel, mae ambell Eisteddfod rithiol ac ambell Eisteddfod fyw yn digwydd, ac isod mae manylion am Eisteddfod fyw leol gyda chystadleuaeth i ddysgwyr (sy'n cael eu galw'n "Siaradwyr Newydd"). Mae rhestr o Eisteddfodau eraill yma:  http://smala.net/steddfota/?page_id=285
Although it is unlikely that many Eisteddfodau will actually be held for a while, there are some virtual and some live Eisteddfods happening, and below are details of a local live Eisteddfod with a competition for learners (called "New Speakers"). There is a list of other Eisteddfodau here: http://smala.net/steinebota/?page_id=285

The Eisteddfod below will be most suitable for learners at Canolradd and Uwch levels and above.
If you would like more details, please contact Philippa Gibson  philippa.gibson@gmail.com   01239 654561

EISTEDDFOD CYMDEITHAS CEREDIGION

Caffi Emlyn, Tanygroes

Mae Cymdeithas Ceredigion yn grŵp Cymraeg llenyddol. Mae’n cwrdd yng Nghaffi Emlyn Tanygroes (SA43 2JE) unwaith y mis yn ystod y gaeaf ac mae croeso i aelodau newydd. Bob blwyddyn, cynhelir Eisteddfod gyda chystadlaethau llenyddol, yn ystod noson Cawl Gŵyl Dewi. Does dim rhaid i chi fod yn aelod o Gymdeithas Ceredigion i gymryd rhan yn yr Eisteddfod, ac mae’n bosibl cystadlu yn yr Eisteddfod a pheidio dod i’r noson. 

Mae’r manylion am yr Eisteddfod nesaf yma    http://smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2021/11/Eisteddfod-Cymdeithas-Ceredigion-2022.pdf ac isod:

Nos Sadwrn 5 Mawrth 2022

Cawl ac Eisteddfod Gŵyl Dewi - (i ddechrau am 7:00 yr hwyr)

Mae angen bwcio i ddod i'r noson:  c.byrnejones257@btinternet.com

Beirniad yr Eisteddfod: Y Prifardd Aneirin Karadog

CYSTADLEUAETH Rhif 12: Cystadleuaeth i siaradwyr newydd: Cerdd neu ryddiaith ar y testun ‘Gwreiddiau’

Gwobr: £10

Rhaid i bob ymgais unigol fod o dan ffugenw, gydag enw'r ymgeisydd ar wahân.  Derbynnir cynigion drwy’r post arferol neu drwy e-bost.

Dyddiad Cau: dydd Sul 20ed o Chwefror

Y cyfansoddiadau i law Carol Byrne Jones, Pencartws, Ffordd Tre-saith, Aber-porth, SA43 2EB c.byrnejones257@btinternet.com

Os hoffech chi gael mwy o fanylion, cysylltwch â Philippa Gibson philippa.gibson@gmail.com    01239 654561

Cyhoeddwyd gan Dysgu.com yn 2022 , dan drwydded Comins Creadigol.
Erys hawlfraint y lluniau gyda'r ffotograffwyr gwreiddiol. 




darllen ar y we / read on the web

datdanysgrifio o'r rhestr / unsubscribe from this list   

diweddaru dewisiadau tanysgrifio / update subscription preferences 

 

Facebook | Twitter

Email Marketing Powered by Mailchimp