Mae’r ddau fideo Elfennau Hanfodol Gwaith Chwarae diweddaraf yn archwilio Erthygl 31 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae’r fideos newydd, sy’n cael eu cyflwyno gan ein Cyfarwyddwraig Gynorthwyol, Marianne Mannello, yn cynnwys gwybodaeth am:
- Hawl plant i chwarae
- Eirioli dros hawl plant i chwarae.
Mae’r fideos Elfennau Hanfodol Gwaith Chwarae yn gyflwyniadau byr i agweddau o waith chwarae ac maent yn cynnwys dolenni i adnoddau pellach. Mae’r fideos ar gael ar ein sianel ‘Play Wales – Playwork’ ar YouTube.
Mae’r fideos wedi eu datblygu a’u ffilmio’n ystod y pandemig coronafeirws er mwyn cynorthwyo dysgwyr gwaith chwarae, ac unrhyw un arall sy’n gweithio gyda phlant, hoffai ddysgu mwy am ddefnyddio agwedd gwaith chwarae.
|