Adnoddau i gefnogi
gweithwyr chwarae
|
|
I ddathlu Wythnos Addysg Oedolion eleni rydym yn rhannu amrywiaeth o adnoddau ar gyfer gweithwyr chwarae a phobl broffesiynol eraill sy’n gweithio â phlant.
Mae ganddom ni hefyd ddiweddariad am y cymwysterau Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith (P3) newydd a manylion am gyfarfod nesaf Clwb Llyfrau Chwarae Cymru.
|
|
Awgrymiadau anhygoel – Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yw sut y bydd unigolion yn gwella eu perfformiad yn eu gwaith trwy fynd ati i ddysgu trwy amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae rhaglen ddysgu pawb yn bersonol iddyn nhw – fydd un rhaglen ddim yn gweddu i bawb. Mae'r awgrymiadau hyn wedi eu hanelu at weithwyr chwarae a gweithwyr proffesiynol eraill sydd ynghlwm â chwarae plant.
Lawrlwytho | gweld ar-lein
|
|
Awgrymiadau anhygoel – dod o hyd
i ddarparwr hyfforddiant gwaith chwarae
Waeth os ydych chi’n chwilio am weithdy hyfforddiant neu gymhwyster, gall hyfforddiant gwaith chwarae amrywio’n fawr iawn o ran ansawdd. Mae’r cynghorion defnyddiol hyn wedi eu dylunio i’ch cefnogi i wneud y gorau o’ch amser a’ch cyllideb hyfforddiant trwy restru rhywfaint o bethau ichi eu hystyried i’ch helpu wrth ddethol eich darparwr hyfforddiant.
Lawrlwytho | gweld ar-lein
|
|
Llifsiart Cymwysterau Gwaith Chwarae
Llifsiart sy’n dangos pa gymwysterau gwaith chwarae sydd eu hangen yn seiliedig ar y math o leoliad a rôl y swydd. Datblygodd PETC Cymru yr adnodd hwn er mwyn cynnig canllawiau clir ar gyfer dysgwyr a chyflogwyr.
|
|
Fideos Elfennau Hanfodol Gwaith Chwarae
Cyflwyniadau byr i agweddau o waith chwarae, er enghraifft Egwyddorion Chwarae 1 a 2, deunyddiau chwarae rhannau rhydd, a hawl plant i chwarae. Mae’r fideos hefyd yn cynnwys dolenni i adnoddau pellach.
Mae’r fideos wedi eu datblygu a’u ffilmio’n ystod y pandemig coronafeirws er mwyn cynorthwyo dysgwyr gwaith chwarae, ac unrhyw un arall sy’n gweithio gyda phlant, hoffai ddysgu mwy am ddefnyddio agwedd gwaith chwarae.
|
|
Ar gael nawr – cymwysterau P3 newydd
Er mwyn ateb anghenion chwarae pob plentyn yng Nghymru a phawb sy’n gweithio ble mae plant yn chwarae, mae Chwarae Cymru wedi datblygu cyfres o gymwysterau, sef Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith neu P3. Mae'r cymwysterau P3 Agored Cymru newydd wedi eu datblygu mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales ac maent nawr ar gael i’w trosglwyddo.
Mae’r cymwysterau yn cynnwys Tystysgrif Lefel 2 a Diploma Lefel 3. Mae’r Lefel 2 wedi ei ddylunio i ateb anghenion gweithwyr chwarae wyneb-yn-wyneb, yn seiliedig ar adborth oddi wrth y sector ac mae’r Lefel 3 wedi ei anelu at oruchwylwyr a rheolwyr gwaith chwarae.
Gellir trosglwyddo P3 yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd dysgwyr yn cwblhau’r cyrsiau trwy gyfuniad o drosglwyddiad ar-lein ac wyneb-yn-wyneb.
Os oes ganddoch chi unrhyw gwestiynau am P3, neu i gofrestru diddordeb, mae croeso i chi ein e-bostio.
|
|
Cyfle DPP –
Clwb Llyfrau Chwarae Cymru
13 Hydref 2020 (4:00 – 5:00pm)
Mae Clwb Llyfrau Chwarae Cymru yn gyfle datblygiad proffesiynol misol rhad ac am ddim ar gyfer gweithwyr chwarae a gwaith chwarae proffesiynol yng Nghymru.
Bob mis rydym yn dewis papur ar-lein, erthygl neu gyhoeddiad arall sydd ar gael yn rhwydd sy’n ymwneud â chwarae a gwaith chwarae ichi ei ddarllen ac yna ymuno â thrafodaeth a myfyrdod awr o hyd ar y cynnwys. Cynhelir holl gyfarfodydd y Clwb Llyfrau ar blatfform cwrdd ar-lein Zoom.
Ymunwch â ni ym mis Hydref pan fyddwn ni’n darllen a thrafod: ‘Power, rights and play: control of play in school grounds, an action research project from Wales’ (a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Education 3-13).
|
|
Wythnos Addysg Oedolion
Mae Wythnos Addysg Oedolion (21-27 Medi 2020) yn ymgyrch flynyddol a gaiff ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o werth addysg oedolion, dathlu llwyddiannau dysgwyr a darparwyr, ac ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod sut gall dysgu newid eu bywydau er gwell.
|
|
|
|
|