‘Bydd chwarae gyda rhannau rhydd, yn gyffredinol, yn datblygu mwy o sgiliau a doniau na’r mwyafrif o deganau plastig modern gan fod angen i’r plant ddefnyddio creadigedd a dychymyg i greu eu bydoedd eu hunain… Er mwyn datblygu’r defnydd o rannau rhydd yn effeithlon yn yr ystafell ddosbarth bydd angen inni weld gwerth yng nghreadigedd y plant… Mae unrhyw beth y bydd y plant yn ei greu eu hunain â mwy o werth na rhywbeth yr ydyn ni wedi ei wneud ar eu rhan.’
Mae Meddwl am rannau rhydd mewn ysgolion yn anelu i ddarparu gwybodaeth i ymarferwyr yn y sector addysg am ddefnyddio deunyddiau chwarae rhannau rhydd yn ystod amser chwarae ac yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r daflen wybodaeth hon yn cyflwyno ystod eang o ymchwil sy’n trafod ymyriadau rhannau rhydd yn ystod amser chwarae ac yn adrodd ar ganfyddiadau o astudiaeth amser cinio benodol. Mae’n cyflwyno enghreifftiau a chynghorion ar sut y mae defnyddio a darparu rhannau rhydd yn cefnogi dysg dan arweiniad y plentyn mewn lleoliad ysgol.
Yn ychwanegol, mae’n cynnwys atodiad defnyddiol sy’n amlinellu ymchwil ar sut y mae chwarae’n cefnogi dysg, datblygiad, gweithgarwch corfforol, iechyd a lles plant.
|