Copy
View this email in your browser

On The Record - November 2020
Please scroll down for 'Ar Gof a Chadw'

 
Hello and welcome to the November edition of On The Record.

We hope everyone is well and keeping safe. We also hope that you still have the opportunity to do some short bursts of recording from home while the rules are stricter and the days are getting shorter. This may mean that there is more time for data collation and we are always looking for more records!

We had a successful online Conference last month and we are pleased to be able to share many of the talks on YouTube. There is an article to help you find a rare beetle, a link to a new podcast, results of the Wales BioBlitz, information for new recorders and our November quiz is now available.

Please continue to Submit Records and Data Requests and if you need to contact us please email, phone, or message us on Twitter or Facebook.
Cofnod Conference
 
We are pleased that under the current circumstances our annual conference was able to take place on 22nd October. Online bookings reached nearly 150, with people dipping in and out during the day. Some sessions attracted nearly 100 people and our extended programme allowed the introduction of our first evening session. We hope people liked the mix of films and presentations, many of which are now available on YouTube.

For those who were unable to join us or if you wish to see things again, video recordings of most of the presentations are on our YouTube channel. Just click here to view the talks and films you wish to watch from the Gynhadledd Cofnod Conference 2020 Playlist.



 
Talks available:
 
A Different Year in the Life of Cofnod (Roy Tapping, Cofnod)

The Importance of Biological Data for Managing the Natural Resources of Wales (Barny Letheren, NRW) - PDF only

Monitoring the Sand Lizards of North East Wales (Liam Blazey, Denbighshire County Council)

The Joys of Taking Over as a Vice County Recorder (Jan Miller)

Cofnod Data – It’s More Exciting Than you Think! (Aisling May, Catharine Moss, Cofnod)

Discovering the Fungi of North Wales (David Winnard)

Plants on the Very Edge - Ex Situ as a Helping Hand for Wales' Threatened Plants (Robbie Blackhall-Miles)

Recording Bees on the Great Orme and Beyond (Siôn Dafis) - in Welsh only

Pushing the Boundaries: Recording in Welsh (Euros Ap Hywel) - in Welsh only

Film on Hawfinch (Kelvin Jones, BTO)

Film on Moths (Duncan Brown) - in Welsh only

Film on Celtic Rainforest Fungi (Nigel Brown et al.)

Spectacular Spoil: an Overlooked Wildlife Habitat (Liam Olds)

 
A metallic blue beetle once considered extinct in Britain is back in force
 
Finding and recording rare and unusual insects can be challenging. With thousands of species to consider it can be daunting recording them to species. Many species need to be examined microscopically to be identified correctly.

Well, here’s an easy species to start with – the Alder Leaf Beetle (Agelastica alni). For many years this species was a great rarity and was even considered extinct in the UK at one point. Its fortunes have changed dramatically and it’s now common across large swaths of Britain, but we still have comparatively few Welsh records.

It’s easy to find too - just examine the leaves of an Alder tree and look for signs of feeding damage. With further investigation you’ll spot these large (6–7 mm) metallic blue beetles munching away at the leaves (check the undersides of the leaves too).

At Cofnod we only have 60 records of this species, with the first regional record in 2012. Most records are from eastern north Wales, so there’s plenty of scope to record this species as it spreads across north Wales. Click here to see the records in the whole of Wales.

You can submit your records and photos using the ORS on the Cofnod website or the LERC Wales mobile App.



Alder Leaf Beetle (Agelastica alni) chewing holes in an Alder leaf at RSPB Conwy October 2020 © Richard Gallon


Alder Leaf Beetle (Agelastica alni) records in north Wales
Wales Garden BioBlitz Results
 
On Saturday 30th May 2020, the four Welsh LERCs teamed together to organise a national Garden BioBlitz, part of Wales Nature Week. The results have been collated by our fellow records centre in south east Wales.
 
Headline Results
  • Most prolific recording day in Wales to date!
  • 7016 records
  • 1568 species
  • 250+ individual recorders
Top 10 Species


Geographic spread: Heat Map

 
Visit the SEWBReC website for full species list and other details.

Tips for new recorders

Are you new to recording? Or interested in exploring different species groups?

Cofnod has recently run two online ‘How To Record’ courses, focussed on Birds and Fungi, which you might find useful to watch on our YouTube Channel. These courses have been run in conjunction with two of our local County Recorders, Ian Spence (Vice-County Recorder for Birds in North East Wales) and David Winnard (Vice-County Recorder for Fungi in North East Wales).
As well as learning the basics of what information you should record and how to do so, whether using the Cofnod Online Recording System or other methods, these courses are a great way to find out what will help these County Recorders verify your records, and how to contact them for advice as you develop your recording skills.

Wales Biodiversity Partnership Conference 2020

“Responding to the crisis for nature in Wales”

The conference will be held online between November 23-27.

The conference is a free event. Save the date in your diary now – online registration will open later this autumn.

Anyone with an interest in biodiversity and ecosystem action is welcome to attend to discuss, share ideas, learn and collaborate on delivering the Nature Recovery Action Plan in Wales. Key players from the public, private and voluntary sectors will be in attendance, and the conference is delighted to welcome the Minister for Environment, Energy and Rural Affairs, Lesley Griffiths. Delegates are welcome to attend the conference every day, or for days or sessions of their choice.
Discover the wild podcast 
 
Join Dave Winnard (naturalist and forager) in a series of podcasts where he is joined by experts and enthusiasts in their field of natural history. From birdwatching, foraging, mycology, botany and photography each episode will delve into the fascinating world of wildlife.

The first podcast is about spiders and is with expert Richard Gallon, also a Cofnod staff member.

 
Quiz of the Month
 
November's Quiz of the Month is ready - please have a go! All questions are multiple choice and are accompanied by photos.

All our previous Quizzes of the Month are available and do post your score on social media using #cofnodquiz.
Cofnod Grant for Biological Recording
 
In the past few months we have funded various pieces of recording equipment including a microscope, trail cams, a moth trap and ID guides.

Visit our website to find out more about these projects and details of how you can apply for the grant.
Please remember to email details of any events, surveys and training opportunities you know of which might be of interest to recorders in North Wales: richard.gallon@cofnod.org.uk 
 
Submit Your Records
Do you observe wildlife? Do you make a note of your sightings? Do you pass these on to anyone?

Visit the Submit Records page on our website for more information on different ways to do this. One great way is to use our Online Recording System, within the Members area of the Cofnod website!

We need your records to help build a more complete picture of the status of species in North Wales. Our Data We Hold page shows you what we already hold on our database.

Ar Gof a Chadw - Tachwedd 2020
 
Helo a chroeso i rifyn mis Tachwedd Ar Gof a Chadw

Gobeithio bod pawb yn iach ac yn cadw'n ddiogel. Gobeithio hefyd eich bod chi’n dal i gael cyfle i wneud rhai cyfnodau byr o gofnodi o gartref tra mae'r rheolau'n llymach a’r dydd yn byrhau. Gall hyn olygu bod mwy o amser ar gyfer casglu data ac rydyn ni bob amser yn chwilio am fwy o gofnodion!

Fe gawsom ni Gynhadledd ar-lein lwyddiannus y mis diwethaf ac rydyn ni’n falch o allu rhannu llawer o'r sgyrsiau ar YouTube. Mae erthygl i'ch helpu chi i ddod o hyd i chwilen brin, dolen at bodlediad newydd, Canlyniadau BioFlits Gardd Cymru, gwybodaeth am gynhadledd sydd i ddod yn nes ymlaen y mis yma ac mae cwis mis Tachwedd ar gael erbyn hyn.

 
Cofiwch ddal ati i Gyflwyno Cofnodion a Cheisiadau Data ac os oes arnoch chi angen cysylltu â ni, anfonwch e-bost, ffonio neu anfon neges i ni ar Twitter neu Facebook.
Cynhadledd Cofnod
 
Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi gallu cynnal ein cynhadledd flynyddol o dan yr amgylchiadau presennol ar 22ain Hydref. Cafodd ei harchebu gan bron i 150, gyda phobl yn picio i mewn ac allan yn ystod y dydd. Denodd rhai sesiynau bron i 100 o bobl ac roedd ein rhaglen estynedig yn gyfle i gyflwyno ein sesiwn gyda'r nos cyntaf. Rydyn ni’n gobeithio bod pobl wedi hoffi'r gymysgedd o ffilmiau a chyflwyniadau, ac mae llawer ohonyn nhw ar gael ar YouTube erbyn hyn.

I'r rhai oedd yn methu ymuno â ni neu os ydych chi eisiau gweld pethau eto, mae recordiadau fideo o'r rhan fwyaf o'r cyflwyniadau ar gael ar ein sianel YouTube . Cliciwch yma i weld y sgyrsiau a'r ffilmiau rydych chi eisiau eu gwylio oddi ar Restr Chwarae Cynhadledd Cofnod 2020.



 
Sgyrsiau ar gael
 
Blwyddyn Wahanol ym Mywyd Cofnod (Roy Tapping, Cofnod)

Pwysigrwydd Data Biolegol ar gyfer Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru (Barny Letheren, NRW) - PDF only

Monitro Madfallod y Tywod yng Ngogledd Ddwyrain Cymru (Liam Blazey, Cyngor Sir Ddinbych)

Pleserau Cymryd yr Awenau fel Is Gofnodwr Sirol (Jan Miller)

Data Cofnod – Mae’n fwy cyffrous nag ydych chi’n ei feddwl! (Aisling May, Catharine Moss, Cofnod)

Darganfod Ffyngau Gogledd Cymru (David Winnard)

Planhigion ar y Dibyn - Sgwrs Oddi ar y Safle fel Help Llaw i Blanhigion Dan Fygythiad Cymru (Robbie Blackhall-Miles)

Cofnodi Gwenyn ar y Gogarth a Thu Hwnt (Siôn Dafis)

Gwthio'r ffiniau: Cofnodi trwy'r Gymraeg (Euros Ap Hywel)

Ffilm am Gylfinbraff (Kelvin Jones, BTO)

Ffilm am Gwyfynod (Duncan Brown)

Ffilm am Ffyngau Coedwigoedd Glaw (Nigel Brown et al.)

Tomenni Trawiadol: Cynefin Bywyd Gwyllt Sy’n Cael ei Anghofio (Liam Olds)

 
Chwilen las fetelig a arferai gael ei hystyried fel chwilen wedi diflannu o Brydain yn ei hôl erbyn hyn
 
Gall dod o hyd i bryfed prin ac anarferol a'u cofnodi fod yn heriol. Gyda miloedd o rywogaethau i'w hystyried gall fod yn anodd iawn eu cofnodi. Mae angen edrych ar lawer o rywogaethau o dan ficrosgop er mwyn eu hadnabod yn gywir.

Wel, dyma rywogaeth hawdd i ddechrau arni – Chwilen Dail y Gwerni (Agelastica alni). Am flynyddoedd lawer, roedd y rhywogaeth hon yn brin iawn a chredid ei bod wedi diflannu hyd yn oed o’r DU ar un adeg. Ond mae ei ffawd wedi newid yn ddramatig ac mae bellach yn gyffredin ar draws rhannau helaeth o Brydain, ond cymharol brin yw’r cofnodion yng Nghymru o hyd.

Mae'n hawdd dod o hyd iddi hefyd – edrychwch ar ddail coed Gwerni a chwilio am arwyddion o ddifrod bwydo. Drwy ymchwilio ymhellach byddwch yn gweld y chwilod glas metelig mawr (6–7 mm) yma’n gwledda ar y dail (edrychwch o dan y dail hefyd).

Dim ond 60 o gofnodion sydd gennym ni o'r rhywogaeth yma yn Cofnod, gyda'r cofnod rhanbarthol cyntaf yn 2012. Daw'r rhan fwyaf o’r cofnodion o ddwyrain gogledd Cymru, felly mae digon o gyfle i gofnodi'r rhywogaeth hon wrth iddi ledaenu ar draws gogledd Cymru. Cliciwch yma i weld y cofnodion yng Nghymru gyfan.

Gallwch gyflwyno eich cofnodion a'ch lluniau gan ddefnyddio'r ORS ar wefan Cofnod neu Ap symudol LERC Cymru.



Chwilen Dail y Gwerni (Agelastica alni) yn cnoi tyllau mewn deilen Gwernen yn RSPB Conwy Hydref 2020 © Richard Gallon


Cofnodion Chwilen Dail y Gwerni (Agelastica alni) yng ngogledd Cymru
Canlyniadau BioFlits Gardd Cymru
 
Ddydd Sadwrn 30ain Mai 2020, daeth pedair LERC Cymru at ei gilydd i drefnu BioBlitz Gardd cenedlaethol, fel rhan o Wythnos Natur Cymru. Mae'r canlyniadau wedi cael eu casglu gan LERC de ddwyrain Cymru.
 
Prif Ganlyniadau
  • Y diwrnod cofnodi mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru hyd yma!
  • 7016 o gofnodion
  • 1568 1568 o rywogaethau
  • 250+ o gofnodwyr unigol
10 Prif Rywogaeth


Dosbarthiad daearyddol: Map Gwres

 
Ewch i wefan SEWBReC am restr lawn o’r rhywogaethau a manylion eraill.

Cyngor Call i Gofnodwyr

Ydych chi'n newydd i gofnodi? Neu oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio gwahanol grwpiau o rywogaethau?

Mae Cofnod wedi cynnal dau gwrs 'Sut i Gofnodi’ ar-lein yn ddiweddar, sy'n canolbwyntio ar Adar a Ffyngau, ac efallai y byddech yn hoffi eu gwylio ar ein Sianel YouTube. Mae'r cyrsiau hyn wedi cael eu cynnal ar y cyd â dau o'n Cofnodwyr Sirol lleol, Ian Spence (Is-Gofnodwr Sirol ar gyfer Adar yng Ngogledd Ddwyrain Cymru) a David Winnard (Is-Gofnodwr Sirol ar gyfer Ffyngau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru). Yn ogystal â dysgu am hanfodion yr wybodaeth y dylech ei chofnodi a sut i wneud hynny, boed drwy ddefnyddio System Cofnodi Ar-lein Cofnod neu ddulliau eraill, mae'r cyrsiau hyn yn ffordd wych o ddarganfod beth fydd yn helpu'r Cofnodwyr Sirol yma i wirio eich cofnodion, a sut i gysylltu â nhw i gael cyngor wrth i chi ddatblygu eich sgiliau cofnodi.



 

Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru 2020

“Ymateb i’r argyfwng sy’n wynebu natur yng Nghymru”

Bydd y gynhadledd hon bellach yn cael ei chynnal ar-lein rhwng 23 a 27 Tachwedd. Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim. Cofnodwch y dyddiad yn eich dyddiadur heddiw – bydd y system gofrestru ar-lein yn agor yn ddiweddarach yr hydref hwn.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithredu dros fioamrywiaeth ac ecosystemau fynychu, i drafod, i rannu syniadau, i ddysgu ac i gydweithio er mwyn cyflawni'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur yng Nghymru. Bydd unigolion allweddol o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn bresennol, ac mae'r gynhadledd yn hynod falch o gael croesawu Lesley Griffiths,Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Mae croeso i gynrychiolwyr fynychu'r gynhadledd bob dydd, neu fynychu ar ddyddiau neu sesiynau o'u dewis.
Podlediad Darganfod y gwyllt 
 
Ymunwch â Dave Winnard (naturiaethwr a fforiwr) mewn cyfres o bodlediadau lle mae arbenigwyr a naturiaethwyr brwd yn ymuno ag ef i roi sylw i’w maes penodol. O wylio adar i fforio am fwyd, mycoleg, botaneg a ffotograffiaeth, bydd pob pennod yn ymchwilio i fyd rhyfeddol bywyd gwyllt.

Mae'r podlediad cyntaf yn rhoi sylw i bryfed cop gyda’r arbenigwr Richard Gallon, sydd hefyd yn aelod o staff Cofnod.

 



Cwis y Mis
 
Cwis y Mis mis Tachwedd yn barod - rhowch gynnig arni! Mae’r cwestiynau i gyd yn rhai aml-ddewis ac mae lluniau'n cyd-fynd â nhw.

Profwch eich gwybodaeth am fywyd gwyllt yn y Cwis y Mis blaenorol a rhoi eich sgôr ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #cwiscofnod #cofnodquiz.
Grant Cofnod ar gyfer Cofnodion Biolegol
 
Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi cyllido darnau amrywiol o offer cofnodi, gan gynnwys microsgop, camerâu llwybrau, trap gwyfynod a chanllawiau adnabod.

Ewch i’n gwefan tni i gael gwybod mwy am y prosiectau yma a manylion am sut gallwch chi wneud cais am y grant.
Cofiwch anfon fanylion am unrhyw ddigwyddiad, cofnodion a chyfleoedd hyfforddi y gwyddoch amdanynt a all fod o ddiddordeb i gofnodwyr yng Ngogledd Cymru: richard.gallon@cofnod.org.uk
 
Cyflwyno Cofnodion

A ydych yn gwylio bywyd gwyllt? A ydych yn nodi yr hyn a welsoch? A ydych yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i unrhyw un?
 

Ewch i'r dudalen Cyflwyno Cofnodion ar ein gwefan i gael mwy o wybodaeth am ffyrdd gwahanol o wneud hyn. Un ffordd wych yw defnyddio ein System Gofnodi Ar-lein sydd wedi'i hailddatblygu, o fewn adran yr Aelodau ar wefan Cofnod!

Rydym angen eich cofnodion i helpu adeiladu darlun mwy cyflawn o statws y rhywogaethau yng Ngogledd Cymru. Mae ein tudalen Y Data Sydd Gennym yn dangos beth sydd gennym yn ein cronfa ddata yn barod.

Website
Twitter
Facebook
Instagram
YouTube
Email
Copyright © 2020 Cofnod All rights reserved.

Cofnod
Intec, Ffordd y Parc, Parc Menai
Bangor
LL57 4FG






This email was sent to <<Email Address>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Cofnod - North Wales Environmental Information Service · Cofnod, Intec, Ffordd y Parc · Parc Menai · Bangor, Gwynedd LL57 4FG · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp