Comisiynwyr yr heddlu a throseddu sy'n gyfrifol am ddwyn prif gwnstabliaid i gyfrif am ddarpariaeth gwasanaethau plismona lleol, pennu cyllideb flynyddol yr heddlu a chomisiynu gwasanaethau ychwanegol i gefnogi blaenoriaethau plismona.
Hoffai'r Comisiynydd glywed barn trigolion ynglŷn ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys eu boddhad gyda phlismona lleol, ymateb Heddlu Gwent i Covid-19 a chyllid yr heddlu.
I ddysgu mwy a lleisio eich barn ewch i wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.