Copy
View this email in your browser

Diwrnod Rhyngwladol Dileu Caethwasiaeth


Mae caethwasiaeth yn drosedd ffiaidd sy’n cam-fanteisio ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac, er bod hynny’n ymddangos yn annhebygol, mae’n dal i fod yn gyffredin yn ein cymunedau heddiw.

Mae dioddefwyr yn aml yn dod i’r DU yn sgil addewid o waith â chyflog da a gwell safon byw ond maen nhw’n cael eu gorfodi i weithio am ychydig neu ddim arian, a byw mewn amgylchiadau ofnadwy. Yna mae’r rhai hynny sydd wedi’u masnachu i mewn i’r wlad i weithio i gangiau cyffuriau, y rhai hynny a orfodwyd i wneud gwaith rhyw, neu y rhai hynny sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau, neu broblemau iechyd meddwl, y manteisir arnynt er budd eraill.

Fi sy’n arwain Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru ar gaethwasiaeth fodern ac rwy’n falch ein bod ni, yma yng Ngwent, wedi cymryd camau breision i fynd i’r afael â’r broblem hon.

Fodd bynnag, nid yr heddlu yn unig sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â chaethwasiaeth. Os ydych chi’n amau bod caethwasiaeth fodern yn digwydd, yn amau bod rhywbeth o’i le, neu os oes gennych chi bryderon ynghylch rhywun, rhowch wybod cyn gynted â phosibl drwy ffonio Heddlu Gwent ar 101. Mewn argyfwng dylech ffonio 999 bob tro.

Cadetiaid yr Heddlu yn derbyn hyfforddiant seiber


Mae Tîm Seiberdroseddu Heddlu Gwent wedi darparu hyfforddiant diogelwch ar-lein i fwy na 70 o gadetiaid yr heddlu.

Dysgodd y bobl ifanc sut i adnabod bygythiadau ar-lein ac addasu eu hymddygiad eu hunain er mwyn osgoi sgamiau ar-lein.

Mae gan fwy na 50 y cant o'r holl droseddau a gofnodir gan Heddlu Gwent elfen ar-lein erbyn hyn ac felly mae'n hanfodol ein bod yn dechrau addysg ar-lein cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod pobl yn gwybod sut i gadw eu hunain yn ddiogel ar-lein.

Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad


Yn ddiweddar fe wnes i gynnal fy nghyfarfod Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad chwarterol lle’r wyf yn dwyn Heddlu Gwent i gyfrif am ddarparu gwasanaethau plismona lleol.

Canmolwyd Heddlu Gwent yn ystod y cyfarfod am eu hymateb ym maes diogelu yn ystod pandemig Covid-19, ac am eu llwyddiant o ran cael canlyniadau cadarnhaol i ddioddefwyr trais rhywiol yn y llysoedd.

Ar hyn o bryd, mae Heddlu Gwent yn un o'r heddluoedd sydd â’r cyfraddau uchaf yn y DU o ran cael euogfarnau am achosion o drais rhywiol yn y llysoedd. Mae hwn yn fater hynod o gymhleth ac mae'r llwyddiant hwn yn dangos ymrwymiad a blaengaredd yr heddlu yn y maes hwn.

Fe wnaethom ni hefyd achub ar y cyfle hwn i edrych ar ddefnydd Heddlu Gwent o bwerau stopio a chwilio. Mae stopio a chwilio yn arf pwysig i helpu i atal troseddu yn ein cymunedau ond mae'n hanfodol ein bod yn gwneud pethau'n iawn. Ar hyn o bryd mae Heddlu Gwent yn adolygu eu gweithdrefnau mewnol o ran stopio a chwilio, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am y mater hwn mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

Byw Heb Ofn

Ni ddylai unrhyw un orfod dioddef trais yn erbyn menywod, trais yn y cartref na thrais rhywiol.

Ond mae cymorth ar gael i’r rheini sy’n dioddef.

Mae Byw Heb Ofn yn llinell gymorth gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n dioddef trais yn y cartref a thrais rhywiol. Mae’r llinell gymorth am ddim ac mae staff ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos gyda gwybodaeth, chymorth a chyfeirio. Y rhif ffôn yw 0808 8010 800.

Gallwch hefyd fynd i www.gwentsafeguarding.org.uk a chlicio ar VAWDASV i gael gwybodaeth a chyngor. Mewn argyfwng ffoniwch 999.
 

Llinell Gymorth Covid-19 i Bobl Ddu ac Asiaidd


Mae’r elusen Barnardo’s wedi lansio gwasanaeth cymorth newydd i blant a phobl ifanc Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a’u teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan Covid-19.  

Mae’r gwasanaeth newydd yn cynnig llinell gymorth i’w ffonio am ddim a chyfleuster sgwrsio ar y we i roi cymorth parhaus gydag amryw o faterion gan gynnwys iechyd meddwl,

profedigaeth, chwalu teuluol, esgeulustod, dychwelyd i’r ysgol, cyngor i rieni, cwnsela, straen teuluol, gwahaniaethu, rhwystrau i wasanaethau a mwy. 

Dysgwch fwy ac ewch at y cyfleuster sgwrsio ar y we ar wefan Barnardo’s neu ffoniwch 0800 1512 605.
Website
Twitter
Facebook
YouTube
Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list.






This email was sent to <<E-bost>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Office of the Police and Crime Commissioner for Gwent · Turnpike Road · Cwmbran, Torfaen NP44 2XJ · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp