Ymunodd fy nhîm a Phrif Gwnstabl Pam Kelly am sesiwn briffio gydag ASau ac Aelodau'r Senedd yr wythnos hon.
Yn ogystal â diweddariad ar blismona gweithredol cawsant wybodaeth am y dyfodol ariannol anodd mae Heddlu Gwent yn ei wynebu yn y blynyddoedd i ddod.
Er gwaethaf buddsoddiad diweddar gan Lywodraeth y DU o ran swyddogion ac offer ychwanegol, mae cyllid Heddlu Gwent gan y llywodraeth wedi gostwng yn sylweddol ers 2010. Mae wedi gorfod gwneud bron i £50 miliwn o arbedion a rhaid iddo arbed £5 miliwn arall erbyn 2024. Yn ystod y cyfnod hwn mae'r galw dyddiol ar blismona wedi cynyddu a bydd yn parhau i gynyddu.
Fy nghyfrifoldeb i yw pennu cyllideb Heddlu Gwent bob blwyddyn ac felly cyn i mi wneud unrhyw benderfyniadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, hoffwn glywed eich barn chi. Manteisiwch ar y cyfle i leisio eich barn os nad ydych wedi gwneud hynny'n barod.
Dirprwy Weinidog yn canmol gwasanaeth sy'n trawsnewid bywydau menywod sy'n troseddu
Mae'r Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip, Jane Hutt AS, wedi canmol gwaith y fenter Braenaru i Fenywod, sy'n helpu menywod yn y system cyfiawnder troseddol yn ne Cymru i adeiladu bywydau gwell sy'n rhydd rhag trosedd.
Mae'r fenter yn cael ei hariannu ar y cyd gan fy swyddfa i, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a'r gwasanaeth carchar. Ei nod yw lleihau nifer y menywod yn y system cyfiawnder troseddol, lleihau ail droseddu a helpu menywod i fyw bywydau mwy diogel ac iach.
Mae'r gwasanaeth yn enghraifft wych o gydweithio effeithiol rhwng sefydliadau'r sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector i gefnogi rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas a helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel.
Diwrnod Siwmper Nadolig
Cynhaliodd fy nhîm Ddiwrnod Siwmper Nadolig heddiw i godi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant.
Fel llawer o bobl, rydym wedi gorfod addasu i heriau gweithio o bell yn ystod y pandemig ond, diolch i waith caled ac ymroddiad fy nhîm, rydym wedi parhau i gyflawni dyletswyddau'r swyddfa a dwyn Heddlu Gwent i gyfrif am ddarparu gwasanaethau plismona lleol.
Hoffwn ddiolch i'r tîm am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Cadwch y tacle allan o'ch cartre
Yr adeg hon o’r flwyddyn, pan mae tai yn llawn o anrhegion newydd, gwerthfawr, mae Heddlu Gwent yn atgoffa pobl i fod yn ymwybodol o sgamwyr sy’n ceisio lladrata trwy dynnu sylw.
Mae’r troseddwyr yn aml yn ceisio mynd i mewn i gartrefi trwy esgus bod angen help arnynt neu eu bod yn gweithio yn yr ardal. Maen nhw'n gweithio mewn parau yn aml. Tra mae un ohonynt yn dal sylw perchennog y cartref mae’r llall yn chwilio’r eiddo ac yn dwyn eitemau.
Cyn ateb y drws, cofiwch: Arhoswch - cyn i chi agor y drws, ystyriwch pwy allai fod yno; Gwiriwch - pwy sydd wrth y drws? Defnyddiwch ffenest, twll ysbïo neu gadwyn drws os oes gennych chi un; Gofynnwch - pwy ydyn nhw, pam maen nhw yna, beth maen nhw ei eisiau? Gofynnwch am gerdyn adnabod a pheidiwch â gadael neb i mewn i’ch cartref oni bai eich bod yn eu disgwyl nhw neu’n eu hadnabod nhw.
Byw Heb Ofn
Ni ddylai unrhyw un orfod dioddef trais yn erbyn menywod, trais yn y cartref na thrais rhywiol.
Ond mae cymorth ar gael i’r rheini sy’n dioddef.
Mae Byw Heb Ofn yn llinell gymorth gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n dioddef trais yn y cartref a thrais rhywiol. Mae’r llinell gymorth am ddim ac mae staff ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos gyda gwybodaeth, chymorth a chyfeirio. Y rhif ffôn yw 0808 8010 800.
Gallwch hefyd fynd i www.gwentsafeguarding.org.uk a chlicio ar VAWDASV i gael gwybodaeth a chyngor. Mewn argyfwng ffoniwch 999.
Oriau agor gorsafoedd heddlu
Bydd oriau agor gorsafoedd Heddlu Gwent yn newid yn ystod cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.