Copy
View this email in your browser

Rhaid aros gartref, diogelu’r GIG ac achub bywydau


Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi ymuno â phartneriaid plismona, Llywodraeth Cymru, Conffederasiwn GIG Cymru ac Asiantaeth Llywodraeth Leol Cymru i gyhoeddi’r datganiad canlynol:

Mae’r sefyllfa yng Nghymru yn ddifrifol iawn ar hyn o bryd.

Mae math newydd o’r feirws yn symud ar garlam ar draws Cymru. Mae’n lledaenu’n hawdd rhwng pobl pan fyddwn gyda’n gilydd.

Mae wedi cydio yn y Gogledd, lle mae’r achosion coronafeirws yn codi’n gyflym, ac mae’n bosibl y bydd yn gyrru’r cynnydd yn achosion y De hefyd cyn bo hir.

Mae’r math newydd hwn o’r feirws yn achosi problemau mewn sawl rhan o’r DU. Symudon ni i lefel rhybudd pedwar – cyfnod clo – cyn y Nadolig er mwyn diogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y coronafeirws.

Oherwydd y math newydd o’r feirws, mae’n bwysicach nag erioed dilyn y rheolau ac aros gartref. Dylid gweithio gartref hefyd os yn bosibl.

Mae’r gweithwyr rheng flaen yn dal i roi ein hiechyd a’n diogelwch ni gyntaf, bob dydd. Ond wrth i’r achosion coronafeirws gynyddu, tyfu hefyd mae’r pwysau ar y GIG.

Wrth i fwy a mwy o bobl fynd yn sâl, rydym ni’n bryderus iawn y gallai’r GIG gael ei llethu’n llwyr.

Mae angen i bob un ohonom aros gartref eto a diogelu ein GIG.

Diolch o galon i bawb sy’n dilyn y rheolau. Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod hynod o anodd a bod pawb yn aberthu pethau er mwyn diogelu eu teulu a diogelu Cymru.

Mae’r brechlynnau Covid-19 newydd yn cynnig gobaith o ddyfodol gwell dros y misoedd nesaf.

Rydym yn gweithio’n wirioneddol galed i roi’r brechlyn ar gael i bawb sydd ei angen. Yn y cyfamser, rhaid i ni ddal ati i ddilyn y rheolau er mwyn diogelu ein hunain a’n teuluoedd.

Mae gormod wedi colli eu bywydau eisoes oherwydd y feirws ofnadwy hwn. Byddwn yn gorfodi’r rheolau pan fo rhaid.

Beth bynnag fo eich rheswm, gwnewch eich rhan i ddiogelu Cymru. Cofiwch, aros gartref, diogelu’r GIG ac achub bywydau.
Website
Twitter
Facebook
YouTube
Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list.






This email was sent to <<E-bost>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Office of the Police and Crime Commissioner for Gwent · Turnpike Road · Cwmbran, Torfaen NP44 2XJ · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp