Copy
 


Bwletin Ysgolion: 14 Ionawr 2021
Click here to read in English.
Rhannwch ein bwletin gyda thîm staff yr ysgol i gyd ac annog eich cydweithwyr i ymuno â'n rhestr bostio.

Rydym yn croesawu cyfraniadau at ein holl sianeli cyfathrebu: blog, cylchlythyr, bwletinau a'r cyfryngau cymdeithasol. Rhannwch eich newyddion a'ch llwyddiannau gyda ni yn communications@cscjes.org.uk

Cylchlythyr Dysg: Sicrhewch eich bod yn derbyn diweddariadau a datblygiadau wythnosol Llywodraeth Cymru ar sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Cofrestrwch i Dysg yma


I'w Weithredu
Dysgu Proffesiynol
Er Gwybodaeth 

Helpwch i ledaenu negeseuon CCD 
Defnyddiwch ein hashnod  #CCDDaliDdysgu #CSCKeepWalesLearning
Dilynwch ni ar ein cyfrifon twitter strategol canlynol i gael y diweddariadau diweddaraf:

@CSCJES
@CSC_TALP
@CSC_FP
@CSC_PL 
@CSC_Cymraeg
@CSC_DigiLearn 
@CSC_Literacy 
@CSC_Leadership 
@CSC_SciTech 
@SiarterIaithCCD   
@CSC_ExpArts 
@CSCHumanities
@CSC_NQT
@CSC_Wellbeing
 
Aelodau Newydd o Staff
Hoffem groesawu tri aelod newydd o staff sydd wedi ymuno â tîm CCD yn ddiweddar.
 
Mae Andy Meek (Andrew.Meek@cscjes.org.uk) wedi ymuno â ni ar secondiad o Ganolfan Awyr Agored The Storey Arms fel  Ymgynghorydd Cysylltiol ar gyfer Addysg Awyr Agored. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi pob ysgol i gynllunio a chymeradwyo pob cyfle dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Bydd yn cymeradwyo ymweliadau tramor a dros nos (pan fyddant yn gallu gyda Covid), yn cefnogi arweinwyr a chydlynwyr i ddangos tystiolaeth o arfer da a chydymffurfiaeth o dan y Gyfraith Iechyd a Diogelwch a chynghori arweinwyr ar faterion penodol sy'n ymwneud â gweithgareddau anturus, dros nos a thramgwyddo.
 
Mae Marvin Thomas (marvin.thomas@cscjes.org.uk) wedi ymuno â ni yn y tîm strategol fel  Ymgynghorydd Cysylltiol ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol. Mae ar secondiad o Ysgol Gyfun Y Pant a bydd yn gweithio i CCD bob dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Gwener. Bydd yn cefnogi ysgolion, gan gyfrannu at gynllunio strategol ar gyfer Celfyddydau Mynegiannol ac arwain DP sy'n grymuso ymarferwyr i wella canlyniadau i ddysgwyr ar draws Celf, Dawns, Drama, Ffilm a  y Cyfryngau Digidol, a Cherddoriaeth.

Mae Rachel Pick (rachel.pick@cscjes.org.uk) wedi ymuno â ni o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel Rheolwr Prosiect. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi'r UDRh â dyletswyddau CP.

Adnoddau Addysgu Uniongyrchol CCD
Fel y gwyddoch i gyd, mae ein Hadnoddau Addysgu Uniongyrchol yn parhau i dyfu ac mae'n fyw ar ein gwefan, wedi'u chategoreiddio yn ôl maes pwnc. Mae'n ffynhonnell ddefnyddiol o adnoddau addysgu uniongyrchol i ysgolion i helpu i gynllunio gweithgareddau dysgu o bell ar gyfer eich  disgyblion. Mae'r adnodd hwn yn enghraifft wych o athrawon yn helpu athrawon ar draws y rhanbarth. !Gan ysgolion, i ysgolion! .

Mae ein partneriaid gwella a’n hymgynghorwyr strategol yma i’ch cefnogi chi dros yr wythnosau sydd i ddod, siaradwch â ni os oes gennych chi unrhyw sylwadau, pryderon neu gwestiynau.

Cyfeiriwch at ein gwefan i gael arweiniad ac adnoddau: 

 Nodwch bod y Sefydliad Gwaddol Addysgol (SGAwedi cyhoeddi y canllaw canlynol i ysgolion:  Sbotolau ar Dîm Cymraeg Consortiwm Canolbarth y De
Cofiwch bod ystod helaeth o adnoddau, cymunedau, rwydweithiau a chyfleoedd dysgu proffesiynol ar gael i gefnogi dysgu Cymraeg.  

Cymunedau: 
Siarter Iaith CCD  [Cyfrwng Cymraeg] 
Cymraeg Campus [Cyfrwng Saesneg] 
Cymraeg ar Draws y Cwricwlwm  [Cyfrwng Saesneg] 

Rhwydweithiau: 
Crochan Cymraeg Cynradd CCD [Cyfrwng Cymraeg] 
Y Pair – Adnoddau Cymraeg Uwchradd [Cyfrwng Cymraeg] 
Y Gist – Adnoddau Ail iaith Uwchradd [Cyfrwng Saesneg] 
Cymraeg for Secondary School Staff  [Cyfrwng Saesneg]  

Adnoddau: 
Cronfa Wybodaeth CCD 
Adnoddau dysgu cyfunol traws gonsortia 
Adnoddau Dysgu Uniongyrchol [Cyfrwng Cymraeg] Os hoffech rhannu unrhyw adnoddau dysgu uniongyrchol, gallwch lenwi’r ffurflen yma.  Cyn cyflwyno adnodd, rhaid ystyried y callawiau hawlfraint. 

e-Ddysgu Proffesiynol: 
Rhaglenni anghydamserol Datblygiad Iaith Gymraeg CCD [Cyfrwng Saesneg] 
Cyrsiau Blasu ar lein learnwelsh.cymru 

Trydar: 
@SiarterIaithCCD  
@CSC_Cymraeg  

Cofiwch hefyd bod croeso i chi gysylltu ag aelod o dîm Cymraeg CCD am gymorth neu fwy o wybodaeth ynghyd â Chris Newcombe, Arweinydd Strategol y Gymraeg ar christopher.newcombe@cscjes.org.uk 

Cyhoeddiadau Ystadegol Ôl-16 – Sylwadau Erbyn Ionawr 22 2021 
Gwelwch y ddolen isod ar gyfer y blog ystadegol diweddaraf sy’n darparu manylion ar y cyhoeddiadau ystadegol sy’n cael eu cynllunio ar addysg ôl-16 yn ystod 2019/20. Mae effaith y pandemig coronafeirws (COVID-19) a’r tarfu ar ddysgu wedi effeithio ar ein hadroddiadau ac mae eich adborth ar ein dull arfaethedig yn bwysig fel ein bod yn gallu cwrdd â chymaint o’ch anghenion ag y gallwn:https://digidoladata.blog.llyw.cymru/2021/01/06/ystadegau-addysg-trawsbynciol-ac-ol-16-yn-ystod-pandemig-coronafeirws-covid-19/ 

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda post16ed.stats@gov.wales erbyn Ionawr 22 2021 i roi digon o amser i ni eu hystyried wrth i ni baratoi'r erthygl ystadegol. 

Covid 19 Addysg, Gofal Plant a Dysgu'n Seiledig ar Waith 
Cliciwch ar y dolenni isod am ragor o wybodaeth
Disgwyliadau o ran dysgu o bell i ddisgyblion mewn blynyddoedd arholiad
Mae’r ddogfen hon yn nodi ein disgwyliadau gan ysgolion mewn perthynas â’r dysgwyr hynny wrth iddynt ddysgu o bell; dylid ei darllen wrth ochr y canllawiau.
Canllawiau ar ddysgu mewn ysgolion a lleoliadau: coronafeirws
Ffrydio byw a fideogynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu
Yn dilyn adborth gan ysgolion ac awdurdodau lleol, mae'r canllawiau wedi'u diweddaru a'u cyhoeddi.

Cefnogaeth dysgu o bell ar Hwb

Ymgyrch #DaliDdysgu 

Animeiddiadau newydd yn ddangos sut mae ysgolion wedi mynd yr ail filltir i gefnogi dysgwyr / rhieni

Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar ddarparu Addysg Uwch yng Nghymru
Y Safonau Gofynnol Genedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Covid-19: ailgyflwyno’r trefniadau llacio dros dro tan 30 Mehefin 2021
Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) ar gyfer gofal plant a reoleiddir: canllawiau COVID-19
Arolwg dilynol o’r Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer y Gweithlu
Dyddiad cau Chwefror 2021

Dysgu cyfunol: Gwybodaeth am ddysgu cyfunol ar gyfer y sector ôl-16
Cwestiynau Cyffredin
Ysgolion: canllawiau coronafeirws
Addysg bellach: coronafeirws
Gofal plant a chwarae: rhybudd lefel 4 cwestiynau cyffredin
Addysg uwch a chymorth i myfyrwyr: coronafeirws
Rheoliadau coronafeirws: cwestiynau cyffredin
Student Space, y platfform iechyd meddwl ar-lein ar gyfer myfyrwyr
Family Lives, gwasanaeth llinell gymorth sy'n cefnogi teuluoedd yng Nghymru
Swyddi, sgiliau a chefnogaeth ariannol
Profi, Olrhain, Diogelu: i ddiogelu Cymru
Beth sydd angen i chi ei wneud?

Am y cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ewch i https://llyw.cymru/coronafe

Adroddiad Y Grŵp Cyngor Technegol (TAGAdroddiad Y Grŵp Cyngor Technegol (TAGAdroddiad Y Grŵp Cyngor Technegol (TAG
Adroddiad Diweddaraf Y Grŵp Cyngor Technegol: amrywiolyn sy'n peri pryder ac addysg yng Nghymru
Mae cyngor diweddaraf ynghylch yr Amrywiolyn sy'n Peri Pryder ac addysg ac ysgolion, a ddefnyddir gan weinidogion i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth i ymateb i bandemig COVID-19 i’w weld yma


Diweddariad Llywodraeth Cymru
NEGES ATGOFF:  
COVID-19 Addasiad Gofynion Cwricwlwm ac Asesu ar gyfer Ionawr 2021Mae gofynion cwricwlwm ac asesu yn parhau i gael eu haddasu ar sail ymdrechion rhesymol ar gyfer mis Ionawr 2021. 

Mae’r Gweinidog Addysg wedi penderfynu i ddatgan hysbysiad addasu pellach yn darparu ysgolion gyda’r hyblygrwydd sy’n parhau tra’n ymateb i faterion cyfredol a sialensiau y pandemig COVID-19. Gall hysbysiadau addasu’r cwricwlwm ac asesu ddim ond eu gwneud ar gyfer cyfnod amser penodedig, na all fod yn fwy nag un mis. Y bwriad yw i ailddechrau anghenion cwricwlwm ac asesu llawn cyn gynted ag y bo’n briodol ac rydym yn parhau i gadw’r sefyllfa o dan adolygiad.  

Ymgynghoriad:  Categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg Dyddiau cau: 26 Mawrth 2021

Blog Diweddaraf CCD
Cymraeg Ysgol Gyfan yn Ysgol Uwchradd Pen y Dre gan Mark Morgan, Pennaeth yr Adran Gymraeg, Ysgol Uwchradd Pen y Dre, Merthyr Tudful, "Dechreuais yn yr adran Gymraeg ym mis Medi 2013 ac ymunodd Pennaeth Drama newydd a Phennaeth Cerddoriaeth newydd â mi yn yr ysgol o fewn dwy flynedd. Gyda chymorth pawb yng nghymuned yr ysgol rydym wedi ceisio trawsnewid agwedd ac ymgysylltiad tuag at yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn radical." Darllenwch y blog yma.


Pecyn Posteri Cwricwlwm i Gymru
Dewch o hyd i'r ddolen yma i gyfres o bosteri sy'n canolbwyntio ar wahanol gydrannau'r cwricwlwm newydd gyda dolenni i ganllawiau pellach ar Hwb.
Gellir dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am Gwricwlwm i Gymru yma


Pysgol Agored yn Cynnig Dau Lwybr Rhan-amser i Mewn i Addysgu
Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig dau lwybr rhan-amser i mewn i addysgu. Mae'r rhain yn disodli pob llwybr arall sy'n seiliedig ar gyflogaeth i mewn i addysgu. Os oes gennych rywun yng nghymuned eich ysgol y gwyddoch y byddent yn athro rhagorol, 'nawr yw'r amser i wneud cais i ddechrau hyfforddi ym mis Medi 2021. Rhestrir y dyddiadau cau ar gyfer y llwybrau amgen isod ac, wrth i'r rhaglen lenwi'n gyflym, argymhellir eich bod yn gwneud cais cynnar. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: http://www.open.ac.uk/courses/choose/wales/pgce neu cysylltwch Sharne Watkins: sharne.watkins@cscjes.org.uk 

Mae dyddiadau cau ceisiadau ar gyfer 2020-21 i'w gweld isod:  

Llwybr 

Dyddiad agor 

Dyddiad cau* 

Cynradd cyflogedig (gydag ysgol gymeradwyo) 

2 Tachwedd 2020 

26 Chwefror 2021 

Cynradd rhan-amser 

2 Tachwedd 2020 

30 Ebrill 2021 

Uwchradd cyflogedig (gydag ysgol gymeradwyo) 

2 Tachwedd 2020 

2 Gorffennaf 2021 

Uwchradd rhan-amser 

2 Tachwedd 2020 

2 Gorffennaf 2021 

Ymgeiswyr cyflogedig heb ysgol bartner i'w cymeradwyo 

2 Tachwedd 2020 

29 Ionawr 2021 

*gallai gau ynghynt os bydd y cyrsiau yn llawn 

Cefnogi Athrawon: Cwrs Dylunio Dysgu Cyfunol ac Ar-lein 
Mae Labordy Gwybodaeth UCL yn cynnig cyfle dysgu proffesiynol mewn cwrs newydd ar-lein am ddim ar gyfer athrawon ym mhob sector, ar Dylunio Dysgu Cyfunol ac Ar-lein. Cynhelir hwn ar FutureLearn, i’w lansio dydd Llun Ionawr 11. Bydd yn cael ei gynnal am dair wythnos, ac yna bydd cael ei ailadrodd. 

Lluniwyd y cwrs, mewn cydweithrediad ag athrawon o bob sector, mewn ymateb i'r angen dybryd am lawer mwy o gefnogaeth i helpu athrawon wrth symud tuag ar ddysgu cyfunol a, phan fo hynny’n angenrheidiol, dysgu ar-lein yn gyfan gwbl. Gellir gweld mwy o wybodaeth yma. 

Tegwch a Lles - Plant sy'n derbyn Gofal
Plant sy'n Derbyn Gofal Lefel 3 - Dyma ran olaf yr hyfforddiant Ysgolion Cyfeillgar CLA. Rhaid cyflawni Lefel 2 cyn dechrau Lefel 3. Mae Lefel 2 ar gael trwy'r Consortiwm.

Cod Digwyddiad: 20/1015
Dyddiad: 02/02/2021
Cliciwch yma

Cod Digwyddiad: 20/1016
Dyddiad: 23/02/2021
Cliciwch yma  

Cod Digwyddiad: 20/1017
Dyddiad : 09/03/2021
Cliciwch yma 


Rhaglen Dysgu Proffesiynol Cwricwlwm i Gymru: Gweithdai gweledigaeth ar gyfer Penaethiaid ac Uwch Arweinwyr
Beth fydd cynnwys y Gweithdy Gweledigaeth?
Wrth i’r daith tuag at ddiwygio Cwricwlwm i Gymru barhau, mae’n hanfodol bod pob ysgol yn datblygu gweledigaeth am gwricwlwm a’r dysgu a’r addysgu sydd yn cefnogi hynny. Bydd y rhan hon o'r rhaglen yn cysylltu'r broses weledigaeth â'r arferion addysgol mewn ysgolion i gefnogi gweithredu diwygio.
 
Dyddiadau Digwyddiadau
20/01/2021 – 09.30 – 11.30
Cod Digwyddiad – 20/1182
Cliciwch yma 

20/01/2021 – 13.00 – 15.00
Cod Digwyddiad – 20/1183
Cliciwch yma 
 
21/01/2021 – 10.00 – 12.00
Cod Digwyddiad – – 20/1184
Cliciwch yma 
 
25/01/2021 – 11.30 – 13.30 WELSH MEDIUM
Cod Digwyddiad – – 20/1185
Cliciwch yma
 
25/01/2021 – 15.30 – 17.30
Cod Digwyddiad – – 20/1186
Cliciwch yma

Mentoriaid Sefydlu ar gyfer ANGau: Neges Allweddol ar gyfer Ionawr 2021 

  • Ar yr adeg hon o’r flwyddyn bydd y rhan fwyaf o ANGau wedi mynychu neu yn barod ar gyfer eu cyfarfod adolygu ffurfiol cyntaf sy'n eu galluogi i gwblhau'r blwch adolygu o dan gam 2 o’r proffil ar-lein ac yna gosod blaenoriaethau datblygiadol newydd neu barhaus 

  • Sicrhewch fod eich ysgol wedi cwblhau'r ffurflen hawlio cyllid ar gyfer y tymor diwethaf a’i e-bostio at EWC professionaldevelopment@ewc.wales 

  • Dylech fod wedi derbyn e-bost gyda’r holl ddyddiadau e-Anelu / e-Aspire! ar gyfer gweddill y rhaglen – cefnogwch eich ANGau i drefnu staff llanw  ymhell ymlaen llaw a mynychu’r sesiynau i gyd y tymor hwn 

Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth
Mae Cystadleuaeth Greadigol Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth bellach ar agor a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Mawrth 2021.

Mae’r Gystadleuaeth yn ffordd ddefnyddiol o annog diddordeb pobl ifanc mewn gwrth-hiliaeth wrth ddarparu cyfle i ddisgyblion fynegi eu teimladau am hiliaeth trwy arddangos eu gwaith. Ymhlith y gwobrau mae kindles, Talebau Amazon, tlysau a thystysgrif wedi'i fframio.

Ariennir y gystadleuaeth gan Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru.
Ceir canllawiau ar gyfer y gystadleuaeth yma.
Gellir dod o hyd i fwy o fanylion ar y ddolen hon https://www.theredcard.org/competitions

Cynllun Iechyd Da – Llyfrau Iechyd a Lles
Yn ystod mis Rhagfyr a Ionawr, bydd pecyn o tua 40 o lyfrau yn cefnogi’r agenda iechyd a lles yn cyrraedd pob ysgol gynradd yng Nghymru o Ganolfan Ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru.

Bydd y pecynnau’n cynnwys llyfrau stori-a-llun a llyfrau pennod sy’n addas ar gyfer ystod o oedrannau rhwng 4 ac 11, wedi’u dethol gan banel arbenigol.

Yn ogystal, bydd canllawiau a thaflen wybodaeth i gyd-fynd â phob un o’r llyfrau unigol, a’r holl ddeunydd wedi’i baratoi gan rwydwaith o athrawon sy’n arbenigo ym maes llythrennedd, iechyd a lles. Bydd adnoddau digidol ychwanegol ar gael drwy HWB yn ystod tymor y Gwanwyn

Y nod yw cefnogi ysgolion wrth iddyn nhw ymdrin â phynciau’n ymwneud ag iechyd a lles fel rhan o’r cwricwlwm newydd, a hefyd gynorthwyo athrawon i drafod y pynciau yma yn ystod cyfnod heriol dros ben.

Ni fydd unrhyw gost ychwanegol i’r ysgolion gan fod y cynllun Iechyd Da yn cael ei gyllido’n uniongyrchol gan Adran Addysg Llywodraeth Cymru a’i gydlynu gan y Cyngor Llyfrau.

Mawr obeithiwn y bydd cynnwys y pecyn yn profi’n ddefnyddiol i gynorthwyo athrawon gyda’r Maes Dysgu a Phrofiad pwysig hwn, ac yn fuddiol o ran iechyd a lles disgyblion.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu ag Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau drwy e-bostio cllc.plant@llyfrau.cymru.


Digwyddiad Sinema Sbaeneg am Ddim  
Mae Screening the Child yn gyfres o ddangosiadau ffilm a thrafodaethau addysgol ar y plentyn yn y sinema Ibero-Americanaidd 1/02/21 - 12/03/21 
Mewn partneriaeth â Chlwb Ffilm Sbaenaidd Pragda ac adrannau Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerwysg, rydym wrth ein boddau yn rhannu’r gyfres hon o ddangosiadau ffilm addysgol a thrafodaethau o’r enw ‘Screening the Child: the Child’s Gaze in Spanish Language Cinema.’  
 
Cyfle gwych i ddisgyblion ac athrawon Sbaeneg ac fe fyddai hefyd o fudd i athrawon ei ddefnyddio fel rhan o’u dysgu cyfunol. 
Gellir gweld mwy o wybodaeth yma  

Copyright © 2021 Central South Consortium, All rights reserved.


Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list.