Copy
View this email in your browser

Cadw'n Ddiogel Ar-lein


Yr wythnos hon gwnaethom nodi Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, sy'n gyfle i siarad am y ffyrdd y gall pob un ohonom gadw'n ddiogel ar-lein.

Eleni, gyda chymaint o bobl yn treulio mwy o amser ar-lein ar gyfer gwaith, ysgol a hwyl, mae'n bwysicach nag erioed.

Mae troseddau a hwylusir gan ddulliau seiber yn esblygu trwy'r amser ac mae troseddwyr yn defnyddio ansicrwydd y pandemig i gymryd mantais o bobl fregus.  Mae gennym uned seiberdrosedd pwrpasol yng Ngwent, gyda swyddog seiberddiogelwch a swyddog cymorth seiber cymunedol sydd allan yn ein cymunedau'n rhoi cyngor diogelwch i drigolion a busnesau.

Fodd bynnag, y ffordd hawsaf i gadw eich hun a'ch teuluoedd yn ddiogel yw trwy fod yn seiber-ymwybodol. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan Heddlu Gwent.

Blog gwadd: Kate Lloyd, Swyddog Seiberddiogelwch


Cyn Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2021, gwnaethom siarad â Swyddog Seiberddiogelwch Heddlu Gwent, Kate Lloyd, am y gwaith mae hi'n ei wneud i gadw pobl Gwent yn ddiogel ar-lein.

“Ymunais â Heddlu Gwent yn 2019 fel Swyddog Seiberddiogelwch a Prevent Fy ngwaith i yw gweithio gyda chymunedau, ysgolion a busnesau i'w helpu nhw i gadw'n ddiogel ar-lein. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor ar sut i adnabod sgamiau ar-lein, sut i sicrhau bod ein cyfrifon ar-lein yn ddiogel, a rhybuddio am rai o'r peryglon ar gyfryngau cymdeithasol.

“Er ein bod wedi gorfod gweithio'n wahanol yn ystod y pandemig, rydym wedi bod yn eithriadol o brysur. Yn anffodus, sylweddolodd troseddwyr yn gyflym eu bod yn gallu manteisio ar ofnau pobl a chymryd mantais o'r ffaith eu bod wedi'u hynysu yn ystod y cyfyngiadau symud, ac rydym wedi gweld nifer o wahanol sgamiau dros y flwyddyn ddiwethaf.”

Darllenwch yr erthygl yn llawn ar fy ngwefan.

Dilynwch dîm seiberdrosedd Heddlu Gwent ar Twitter @GPCyberCrime 

Rhaid i'r Bil Cam-drin Domestig adnabod plant fel dioddefwyr


Rwyf yn cefnogi diwygiadau arfaethedig i'r Bil Cam-drin Domestig gan Lywodraeth y DU a fyddai'n dileu'r rhagdybiaeth bod cyswllt parhaus gyda rhiant camdriniol er budd pennaf y plentyn.

Byddai hefyd yn gwahardd cyswllt heb oruchwyliaeth i riant sy'n aros am achos llys neu ar fechnïaeth am droseddau cam-drin domestig, neu lle mae achos llys am gam-drin domestig yn mynd rhagddo. Mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn aml yn trin cam-drin domestig yn y cartref fel mater ar wahân i ddiogelwch a lles plentyn. Rydym yn gwybod bod tyfu i fyny mewn cartref lle mae cam-drin domestig yn digwydd yn gallu niweidio iechyd meddwl plentyn ac, mewn rhai achosion, gwneud plentyn yn fwy tebygol o ddechrau ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Nid yn unig byddai’r mesurau newydd hyn yn cadw plant yn ddiogel, byddant yn helpu i amddiffyn goroeswyr, sy'n aml yn cael eu gorfodi i gadw mewn cysylltiad â'u camdriniwr i hwyluso cyswllt y camdriniwr gyda'u plentyn.

Rhybudd - sgamiau brechlyn Coronafeirws


Byddwch yn wyliadwrus o negeseuon e-bost, galwadau ffôn a negeseuon testun twyllodrus yn gofyn am fanylion banc a gwybodaeth bersonol arall er mwyn trefnu brechlyn Coronafeirws.

Mae'r rhain yn sgamiau arbennig o frawychus sy'n chwarae ar ofnau pobl am Coronafeirws.

Cofiwch, bydd y GIG yn cysylltu'n uniongyrchol â chi i drefnu eich brechlyn, naill ai ar y ffôn neu drwy lythyr, ac ni fydd yn gofyn i chi am arian, na dogfennau personol, ar unrhyw bwynt.

Ni fydd y GIG byth yn gwneud y canlynol:
•         Gofyn am daliadau, gan fod y brechlyn am ddim
•         Gofyn am eich manylion banc
•         Dod i'ch cartref yn ddirybudd i roi'r brechlyn
•         Gofyn i chi brofi pwy ydych chi drwy anfon copïau o ddogfennau personol (e.e. pasbort).

Gallwch anfon unrhyw negeseuon e-bost amheus ymlaen at report@phishing.gov.uk. Gellir anfon negeseuon testun amheus at 7726.

Os ydych chi wedi dioddef twyll neu achos o ddwyn hunaniaeth, neu'n amau eich bod wedi dioddef, cysylltwch ag Action Fraud https://actionfraud.police.uk neu 0300 123 2040.  Gallwch ffonio Heddlu Gwent ar 101 hefyd. Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.

Perfformiad byw yn mynd i'r afael â cham-drin domestig a rheolaeth drwy orfodaeth


Mae All in Your Head, perfformiad sy'n rhoi llais i brofiadau menywod o gam-drin domestig a rheolaeth drwy orfodaeth, yn cael ei ffrydio'n fyw ddydd Sul 14 Chwefror.  

Yn dilyn y perfformiad cynhelir trafodaeth gyda phanel yn cynnwys goroeswyr trais seiliedig ar rywedd a chynrychiolwyr o sefydliadau cymorth.

Rydym yn gwybod nad yw pob un o'r troseddau hyn yn cael eu riportio yn ystod y pandemig hwn ac, i lawer o bobl, nid yw eu cartref y lle diogel y dylai fod.

Os ydych chi wedi dioddef y troseddau hyn, gallwn eich sicrhau chi bod cymorth ar gael. Ffoniwch yr heddlu ar 101, neu 999 mewn argyfwng. Os nad ydych am gysylltu â'r heddlu gallwch gysylltu â nifer o asiantaethau cymorth a fydd yn gallu eich helpu chi a'ch cadw chi'n ddiogel. 

Bydd All in Your Head yn cael ei berfformio ddydd Sul, 14 Chwefror, am 7pm. Mae am ddim ac mae tocynnau ar gael yma: cptheatre.co.uk

Umbrella Cymru


Mae Umbrella Cymru'n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol, gwybodaeth ac eiriolaeth o ansawdd uchel i bobl LGBT+ sy'n dioddef trosedd.

Gallwch gysylltu ag Umrella Cymru fel a ganlyn:
Ewch i: www.umbrellacymru.co.uk
E-bost: info@umbrellacymru.co.uk
Ffoniwch: 0300 302 3670
Dilynwch: @umbrellacymru ar Twitter.

Sesiynau gweminar Cynllun Gwarchod Cymdogaeth


Mae Heddlu Gwent yn estyn gwahoddiad i aelodau cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth ar draws ardal y llu i gymryd rhan mewn cyfres o weminarau, yn dechrau dydd Mercher 24 Chwefror 7pm.

Nod y sesiynau yw darparu gwybodaeth i rymuso trigolion i ddiogelu eu cartrefi a'u hanwyliaid a'u galluogi nhw i rannu'r wybodaeth honno gyda phobl eraill yn ein cymunedau.

Bydd gweminarau'n cynnwys y newyddion diweddaraf gan y rhwydwaith Gwarchod Cymdogaeth a gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i gynlluniau yng Ngwent.

I gofrestru ar gyfer y gweminarau e-bostiwch eich enw, cyfeiriad ac ardal eich cynllun Gwarchod Cymdogaeth at crimeprevention@gwent.police.uk
 
Website
Twitter
Facebook
YouTube
Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list.






This email was sent to <<E-bost>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Office of the Police and Crime Commissioner for Gwent · Turnpike Road · Cwmbran, Torfaen NP44 2XJ · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp