Heddlu Gwent - Swydd Wag: Rheolwr - cyllid a phartneriaethau
Mae hwn yn gyfle i weithio ar lefel uwch yn Heddlu Gwent fel pwynt cyswllt ar gyfer cyd-gysylltu ceisiadau am gyllid a chyfleoedd cynhyrchu incwm.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn yr adran Rheoli Newid ond bydd yn cynorthwyo i ddarparu strategaeth cyllid Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hefyd. Bydd y gwaith yn cynnwys gwerthuso prosiectau sy’n cael eu hariannu a sicrhau bod adroddiadau’n cael eu llunio yn unol â phrosesau llywodraethu sefydliadol.
Dylai bod gan ymgeiswyr addas brofiad o baratoi achosion busnes neu ymgeisio am gyllid grant.
Rhagor o fanylion a ffurflen gais.
|
|
|
|