Copy
On The Record -  June 2021
Please scroll down for 'Ar Gof a Chadw'

Hello and welcome to this month’s On the Record. We are focusing on Grass Snakes with tips about where to find them and how to attract them to your garden. It is Wales Nature Week and there are various events online plus we have included an entertaining Emoji Wildlife Quiz for a bit of fun. It's not too late to improve your birdsong skills, see below for some videos to help. As usual there are links to last months' courses on our YouTube channel and this includes the two very popular Bee courses.

Last month's Species Focus was Swifts and some of you may have noticed that they arrived very late compared to normal due to the unhelpful weather. Please continue to add your records on Cofnod's ORS using A Swift Recovery when prompted. We would also like to let you know that we are tentatively starting our Recorders’ Days again after their extended postponement.
Wales Nature Week, 29th May - 6th June
 
We are currently partway through Wales Nature Week. The event is virtual and is taking place through social media channels with a selection of live events on each day. The main focus is a showcase of our magnificent habitats in Wales and the species they support. Each day begins with an introduction followed by video pieces on aspects of the featured habitat supported by social media posts and tweets from the nature community in Wales and beyond. There is a schedule of events here - scroll down to 'Events schedule' and click to open the tab.

We’ll have an evening round-up of May's Wales Garden Bioblitz event on Thursday 10th June (7:30pm) where results and highlights from across Wales will be presented.

 
 
Cofnod Course: “How to Record” - Butterflies
23/06/2021; 10am-12pm

 
Jan Miller, our Denbighshire and Flintshire Vice-County butterfly recorder, will introduce you to the art of butterfly recording in North Wales. This online Zoom course is suitable for beginners. You’ll learn how to increase the quality of the records you make and the different ways you can send them to Cofnod.
 
Book "How to Record" Butterflies
Cofnod Courses on YouTube

Here are three more videos from May's courses for you to watch whenever suits you.

 Click here to watch Skills for Bees Cymru Session 1



 Click here to watch Skills for Bees Cymru Session 2

 
 

Click here to watch "How to Record" Mammals
 
 

Species focus – Grass Snake (Natrix helvetica)


We haven’t seen much sunshine this spring but on warm, even overcast days, you might see Grass Snakes out and about. One of two native snake species to occur in Wales, Grass Snakes are an active species that might be seen basking and swimming in garden ponds, lakes and canals.

The Grass Snake is a harmless, non-venomous species that mostly feeds on amphibians and sometimes fish. At this time of year the females might be seen around heaps of rotting vegetation (including large garden compost and manure heaps), which make excellent egg-incubators. Grass Snake eggs hatch into miniature versions of the adults in the late summer.

Grass Snakes are easy to recognise by the yellow collar behind the head, a large eye with a round pupil and their olive-brown colour with narrow dark bars on the lower sides. Our native Grass Snakes do not have a continuous dark dorsal stripe. Most adults measure 60-70 cm, but large females can grow to over 1 metre.

 
Grass Snake (Natrix helvetica) records in the Cofnod database (1980 onwards)

 
The other native snake species in Wales is the Adder (Vipera berus). The Adder has a dark and distinct zigzag pattern down its back and small red eyes. Adders do not have a yellow collar. Females are brown with a dark brown zigzag (left) and males silvery-grey or greyish brown with a black zigzag (right). Adders are rarely seen swimming and generally avoid gardens, unless they border directly on heathland, fenland or coastal vegetation.



Slow-worms (Anguis fragilis) are actually lizards but have been mistaken for snakes because they lack legs. Slow-worms have stocky bodies with a shiny, metallic brown, sometimes coppery colour. The head is narrow and rigid, with small eyes and a poorly-defined neck. Females have dark sides and juveniles are strikingly gold and black.  
 
 

Species records
Further information on our native reptiles and amphibians is available from The Amphibian and Reptile Conservation (ARC) Trust website.

Any North Wales reptile and amphibian sightings can be entered on Cofnod’s website by clicking on Wales Online Amphibian & Reptile Atlas when prompted and interactive distribution maps can be found here.

If at all possible, please take photos and upload with your record. Photos should be taken from a distance without disturbing the animal. Reptiles are very sensitive to movement and so approach slowly and quietly.

 
Wildlife garden tips
Large, warm compost and manure heaps provide important egg-laying habitat for Grass Snakes. You can help Grass Snakes by providing an undisturbed compost heap and avoid turning over any compost/manure heaps in the summer/early autumn months. A garden pond will ensure a supply of food and water.
 
Emoji Quiz!
 
For a bit of fun why not have a go at this Emoji quiz created by Cofnod's Richard Gallon? As part of the Wales Nature Week all four Welsh LERCs joined forces to provide a Wildlife Quiz which was on at the end of May. Click here for a recording of the quiz. You will find the answers to the Emoji Quiz towards the end.
 
 
Birdsong ID videos
 
Ben Porter ran a Wildlife Photography course for Cofnod in the autumn of 2020 and in the last few months he has created 10 YouTube videos to help with Birdsong identification. If you are still trying to get to grips with birdsong then click here for the section with short videos to help you to identify ten of the commonest bird species.
 
Ben Porter recording Great tit song
Cofnod Grant for Biological Recording
 
We have reopened our Recording grants of up to £500 for equipment, travel expenses or to cover other small incidental costs. You are welcome to fill in the newest grant application form if you too are interested in applying.
 
 
...and in other news
 
Please look at our website for other items of interest.

 
Please remember to email details of any events, surveys and training opportunities you know of which might be of interest to recorders in North Wales or contact our Recording Specialist  Richard Gallon.
 
Submit Your Records
Do you observe wildlife? Do you make a note of your sightings? Do you pass these on to anyone?

Visit the Submit Records page on our website for more information on different ways to do this. One great way is to use our Online Recording System, within the Members area of the Cofnod website!

We need your records to help build a more complete picture of the status of species in North Wales. Our Data We Hold page shows you what we already hold on our database.
Ar Gof a Chadw - Mehefin 2021

Helo a chroeso i rifyn y mis yma o Ar Gof a Chadw. Rydym yn canolbwyntio ar Nadroedd y Gwair gyda chyngor ar ble i ddod o hyd iddyn nhw a sut i’w denu i’ch gardd. Mae’n Wythnos Natur Cymru ac mae digwyddiadau amrywiol ar gael ar-lein. Hefyd rydyn ni wedi cynnwys Cwis Emojis Bywyd Gwyllt difyr am ychydig o hwyl. Dydi hi ddim yn rhy hwyr i wella eich sgiliau adnabod cân yr adar, edrychwch isod am rai fideos i helpu. Fel arfer, mae dolenni at gyrsiau’r mis diwethaf ar ein sianel YouTube ac mae’n cynnwys y ddau gwrs Gwenyn poblogaidd iawn.

Roedd y Ffocws ar Rywogaeth y mis diwethaf ar Wenoliaid Duon ac efallai bod rhai ohonoch chi wedi sylwi eu bod wedi cyrraedd yn hwyr iawn o gymharu ag arfer oherwydd y tywydd gwael. Cofiwch ddal ati i ychwanegu eich cofnodion ar ORS Cofnod gan ddefnyddio Gwarchod Gwenoliaid Duon pan gewch eich ysgogi i wneud hynny. Hefyd byddem yn hofi rhoi gwybod i chi ein bod yn dechrau cynnal ein Dyddiau Cofnodwyr eto ar ôl eu gohirio am gyfnod estynedig.

 
Wythnos Natur Cymru! 29 Mai – 6 Mehefin
 
Eleni rydym yn gofyn i chi Archwilio, Darganfod a Rhannu eich straeon a'ch profiadau natur yn ystod Wythnos Natur Cymru. Bob dydd rydym yn tynnu sylw at gynefinoedd gwahanol - coetiroedd, gwlyptiroedd, dolydd, mawndiroedd, morol ac arfordirol a threfol a'r llu o rywogaethau y gallwch ddod ar eu traws. Ar gyfer pob cynefin, rhannwch eich postiadau a'ch lluniau bob dydd ac ymunwch â'r sgwrs. Gallwch weld amserlen bresennol Wythnos Natur Cymru yma - sgroliwch i lawr i 'Amserlen Ddigwyddiadau' a chlicio i agor y tab.
 
Byddwn yn cynnal crynodeb gyda’r nos o ddigwyddiad Bioblitz Gerddi Cymru mis Mai ar nos Iau 10fed Mehefin (7:30pm) a bydd canlyniadau ac uchafbwyntiau o bob cwr o Gymru’n cael eu cyflwyno.

 
 
Cwrs Ar-lein Cofnod: “Sut i Gofnodi" Glöynnod Byw
23/06/2021; 10:00yb-12:00

 
Ymunwch â Jan Miller, Cofnodwr Sirol Glöynnod Byw Sir Ddinbych a Sir y Fflint, i ddysgu sut orau i gofnodi glöynnod byw ledled Gogledd Cymru. Mae’r cwrs ar-lein hwn yn addas i ddechreuwyr.
 
Archebwch eich lle ar Gyrsiau Cofnod
Cyrsiau Cofnod ar gael nawr ar YouTube
 
Rydym yn gobeithio cynnal cwrs "Sut i Gofnodi" arall am Löynnod Byw a Gwyfynod yn fuan, ond ar hyn o bryd dyma dri fideo arall o gyrsiau mis Mai i chi eu gwylio pan mae’n gyfleus i chi.

 Cliciwch yma i wylio Sgiliau ar gyfer Gwenyn Cymru Sesiwn 1



Cliciwch yma i wylio Sgiliau ar gyfer Gwenyn Cymru Sesiwn 2

 


Cliciwch yma i wylio "Sut i Gofnodi" Amffibiaid

 
 

Ffocws ar Rywogaeth – Neidr y Gwair (Natrix helvetica)


Dydyn ni ddim wedi gweld llawer o heulwen y gwanwyn yma ond ar ddyddiau cynnes, er yn gymylog, efallai y gwelwch chi Nadroedd y gwair allan o gwmpas y lle. Yn un o ddwy rywogaeth o nadroedd brodorol sydd i’w gweld yng Nghymru, mae nadroedd y gwair yn rhywogaeth brysur sydd i’w gweld yn torheulo efallai ac yn nofio mewn pyllau gardd, llynnoedd a chamlesi.

Mae neidr y gwair yn rhywogaeth ddiniwed (heb fod yn wenwynig) sy'n bwydo'n bennaf ar amffibiaid ac weithiau pysgod. Yr adeg yma o'r flwyddyn, efallai y gwelwch chi’r benywod o amgylch tomenni o lystyfiant sy'n pydru (gan gynnwys tomenni compost gardd a thail mawr), sy'n rhagorol ar gyfer deor yr wyau. Mae wyau nadroedd y gwair yn deor fel fersiynau bach o'r oedolion ar ddiwedd yr haf.

Mae nadroedd y gwair yn hawdd eu hadnabod oddi wrth y goler felen y tu ôl i'r pen, llygad mawr gyda channwyll gron ynddo a'u lliw brown neu olif gyda bariau tywyll cul ar yr ochrau isaf. Does gan ein nadroedd y gwair brodorol ddim streipen dywyll barhaus ar eu hochr. Mae'r rhan fwyaf o’r oedolion yn mesur 60 i 70 cm, ond gall y benywod mawr dyfu i fod dros 1 metr.

 

Cofnodion o Neidr y Gwair yng Nghronfa Ddata Cofnod (1980 a nes ymlaen)

 
Y rhywogaeth frodorol arall o neidr yng Nghymru yw'r wiber (Vipera berus). Mae gan y wiber batrwm igam-ogam tywyll a nodedig i lawr ei chefn a llygaid bach coch. Does gan wiberod ddim coler felen. Mae’r benywod yn frown gydag igam-ogam brown tywyll (chwith) a’r gwrywod yn llwyd neu arian neu’n llwydfrown gydag igam-ogam du (dde). Pur anaml y gwelir gwiberod yn nofio ac maent yn osgoi gerddi yn gyffredinol, oni bai eu bod yn ffinio'n uniongyrchol â rhostir, ffeniau neu lystyfiant arfordirol.



Madfallod yw nadroedd defaid (Anguis fragilis) mewn gwirionedd, ond maent yn cael eu camgymryd am nadroedd am nad oes ganddynt goesau. Mae gan nadroedd defaid gyrff byrdew gyda lliw sgleiniog, metelig, fel copr weithiau. Mae'r pen yn gul ac yn anhyblyg, gyda llygaid bach a gwddw aneglur. Mae gan y benywod ochrau tywyll ac mae’r rhai ifanc yn aur a du trawiadol.  
 
 

Cofnodion am rywogaethau
Mae rhagor o wybodaeth am ein hymlusgiaid a’n hamffibiaid brodorol ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth Cadwraeth yr Amffibiaid a’r Ymlusgiaid (ARC).

Gellir cofnodi gweld ymlusgiaid ac amffibiaid yng Ngogledd Cymru ar wefan Cofnod, cliciwch ar Atlas Amffibiaid ac Ymlusgiaid Ar-lein Cymru os cewch eich ysgogi i wneud hynny. Mae mapiau dosbarthiad gyda mwy o fanylion ar gael yma.


Os yw'n bosibl o gwbl, tynnwch luniau a'u huwchlwytho gyda'ch cofnod. Dylid tynnu lluniau o bell heb darfu ar yr anifail. Mae ymlusgiaid yn sensitif iawn i symudiad ac felly dylech fynd atynt yn araf ac yn dawel.
 
Awgrymiadau ar gyfer gardd bywyd gwyllt
Mae tomenni compost a thail mawr a chynnes yn darparu cynefin dodwy wyau pwysig ar gyfer nadroedd y gwair. Gallwch helpu nadroedd y gwair drwy ddarparu tomen gompost heb neb yn tarfu arni ac osgoi troi unrhyw domenni compost / tail yn ystod misoedd yr haf / dechrau'r hydref. Bydd pwll gardd yn sicrhau cyflenwad o fwyd a dŵr.
 
Cwis Emojis!
 
Am ychydig o hwyl beth am roi cynnig ar y cwis Emojis yma sydd wedi’i greu gan Richard Gallon o Cofnod? Fel rhan o Wythnos Natur Cymru, daeth pedair LERC Cymru at ei gilydd i ddarparu Cwis Bywyd Gwyllt a oedd ar YouTube ddiwedd mis Mai. Cliciwch yma am recordiad o’r cwis. Bydd atebion Cwis Emojis ger ddiwedd y fideo.
 
 
Birdsong ID videos
 
Cynhaliodd Ben Porter gwrs Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt ar gyfer Cofnod yn hydref 2020 ac yn ystod y misoedd diwethaf mae wedi creu 10 fideo YouTube i’ch helpu gydag adnabod cân adar. Os ydych chi’n dal i geisio dod i adnabod cân gwahanol adar, cliciwch yma am yr adran gyda fideos byrion i’ch helpu i adnabod deg o’r rhywogaethau mwyaf cyffredin o adar.
 
Ben Porter yn recordio cân y Titw Mawr
Grant Cofnod ar gyfer Cofnodi Biolegol
 
Rydyn ni wedi ailagor ein grantiau Cofnodi o hyd at £500 ar gyfer offer, costau teithio neu i dalu am gostau bychain eraill. Mae pedwar o bobl wedi gwneud cais yn ystod y mis diwethaf ac mae croeso i chi lenwi’r ffurflen gais am grant newydd hefyd os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais.
 
 
...ac mewn newyddion arall!
 
Edrychwch ar ein gwefan ni fam eitemau eraill sydd o ddiddordeb.

 
Cofiwch e-bostio manylion unrhyw ddigwyddiadau, arolygon a chyfleoedd hyfforddi rydych yn gwybod amdanynt a allai fod o ddiddordeb i gofnodwyr yng Ngogledd Cymru neu gysylltu a’n Harbenigwr Cofnodi,  Richard Gallon.
 
Cyflwyno Cofnodion

A ydych yn gwylio bywyd gwyllt? A ydych yn nodi yr hyn a welsoch? A ydych yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i unrhyw un?
 

Ewch i'r dudalen Cyflwyno Cofnodion ar ein gwefan i gael mwy o wybodaeth am ffyrdd gwahanol o wneud hyn. Un ffordd wych yw defnyddio ein System Gofnodi Ar-lein sydd wedi'i hailddatblygu, o fewn adran yr Aelodau ar wefan Cofnod!

Rydym angen eich cofnodion i helpu adeiladu darlun mwy cyflawn o statws y rhywogaethau yng Ngogledd Cymru. Mae ein tudalen Y Data Sydd Gennym yn dangos beth sydd gennym yn ein cronfa ddata yn barod.







This email was sent to <<Email Address>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Cofnod - North Wales Environmental Information Service · Cofnod, Intec, Ffordd y Parc · Parc Menai · Bangor, Gwynedd LL57 4FG · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp