Copy

Cerddwyr Cylch Teifi

Dof mewn niwl, dof mewn heulwen,
A dof drwy’r glaw yn llawen –
Awn i gyd, pob un â gwên.
Terwyn

Cerddwyr Cylch Teifi

Ffynonnau, Capel Newydd - 8/10/22

Llun o raeadr Ffynnone

Cerddwyr Cylch Teifi

Annwyl Gyfeillion, 

Byddwn ni’n dechrau tymor newydd Cerddwyr Cylch Teifi wythnos nesaf a bydd yn braf eich gweld chi eto.

Bydd y teithiau misol ar ddyddiau Sadwrn yn dechrau am 10.30yb. ac fel arfer yn gorffen erbyn 12:30 neu 1.00. Weithiau byddwn yn trefnu man i gymdeithasu ar ôl cerdded i'r rhai sy'n dymuno.

Dyma'r teithiau cyntaf:

  • Hydref 8fed - Ffynonnau gydag Ali Evans
     
  • Tachwedd 12fed -  Llandilo ger Maenclochog gyda Hefin Wyn
     
  • Rhagfyr 10fed - Llandysul gyda Lesley Parker
     
  • Ionawr  14eg - Bwlch-y-groes gyda Terwyn Tomos

Bob tro, rydym yn gofyn i’r Cerddwyr fod yn wyliadwrus er mwyn peidio lledu Covid, gan

  • sicrhau eich bod wedi cael y brechiadau sydd ar gael ichi;
  • ceisio cadw rhyw bellter cymdeithasol rhesymol oddi wrth gerddwyr sy’n perthyn i aelwydydd eraill;
  • peidio â dod ar daith os ydych chi’n: 
    • hunan-ynysu, neu'n
    • dangos unrhyw symptom sy’n gysylltiedig â’r haint.

Ni fyddwn yn hysbysebu pob taith yn y papurau bro a'r papurau newyddion, gan fod pethau’n gallu newid ar fyr rybudd. Ond byddaf yn anfon manylion pob taith atoch chi trwy e-bost wythnos ymlaen llaw. 

Mae manylion taith wythnos nesaf isod ac wedyn nodiadau am ddiogelwch

Cofion gorau,

Philippa 

philippa.gibson@gmail.com   01239 654561

Cerddwyr Cylch Teifi Walkers

Dear Friends,

We will start the new season of Cerddwyr Cylch Teifi next week and it will be good to see you again.

The monthly walks on Saturdays will start at 10.30am. and usually finish by 12:30 or 1.00. Sometimes we’ll arrange a place to socialise after the walk for those who wish.

Here are the first walks:

  • October 8th - Ffynonnau with Ali Evans
     
  • November 12th - Llandilo near Maenclochog with Hefin Wyn
     
  • December 10th - Llandysul with Lesley Parker
     
  • January 14th - Bwlch-y-groes with Terwyn Tomos

Each time, we ask the Walkers to be vigilant in order not to spread Covid, by

  • ensuring you have had the vaccinations available to you;
  • trying to keep some reasonable social distance from walkers from other households;
  • not come on a walk if you are:
    • self-isolating, or
    • showing any symptom associated with the infection.

We won’t advertise every walk in the papurau bro and newspapers, as things can change at short notice. But I will send you the details of each walk by email a week in advance.

The details of next week’s walk are below and then notes about safety..

Best wishes,

Philippa 

philippa.gibson@gmail.com   01239 654561

Cerddwyr Cylch Teifi:  8fed o Hydref 2022

Ffynonnau, Capel Newydd

Arweinydd: Ali Evans

Byddwn ni’n gadael y maes parcio ger Llyn Ffynonnau am 10:30yb (SN 243 382; ardal cod post SA37 0HQ).

Y daith: Taith gylch wrth-glocwedd o ryw 2.75 milltir a dwy awr, yn bennaf ar draciau coedwigaeth da. Awn ni ar y llethrau uwchlaw’r llyn i Gwm Blaen Bwlan; wedyn ar lwybr ceffylau i ailymuno â’r traciau coedwigaeth ar ochr arall y llyn ac yn ôl arnynt i’r maes parcio.  

Esgyniad: cyfanswm o tua 300 troedfedd, y rhan fwyaf ar y dechrau. Mae angen gofal ar ran gyntaf y llwybr ceffyl wrth inni fynd i lawr llechwedd serth a llithrig.  

Pwyntiau o ddiddordeb: Wrth gerdded, byddwn yn dysgu llawer am hanes ystad Ffynonnau, e.e Cerddwn ni heibio.: 

Bwthyn Pontnewydd, lle roedd gweision y stad yn byw;

Coedwig stad Ffynonnau, lle cawn glywed am hanes y tŷ a’r coed;

Rhaeadr Ffynonnau a’r cysylltiad â’r Mabinogi; 

Bwthyn Tŷ Isaf, Cwmfelin, a’i gysylltiad â’r cyn brif weinidog, David Lloyd George.

Wedyn: I’r rhai sydd eisiau, gallwn gymdeithasu yn Nhafarn y Nag’s Head, Aber-cuch, ar ôl y daith.

Cerddwyr Cylch Teifii Walkers: 8th October 2022

Ffynonnau, Newchapel

Leader: Ali Evans

We’ll leave the car park near Llyn Ffynonnau at 10:30am (SN 243 382; in the area of postcode SA37 0HQ).

The walk: An anti-clockwise circular walk of around 2.75 miles and two hours, mainly on good forestry tracks. We’ll go on the slopes above the lake to Cwm Blaen Bwlan; then on a bridleway to rejoin the forestry tracks on the other side of the lake and back on them to the car park. 

Ascent: about 300 feet total, most at the start. Care is required on the first part of the bridleway as we go down a steep and slippery slope.

Points of interest: While walking, we’ll learn a lot about the history of the Ffynonnau estate, e.g. We’ll walk past.:

Bwthyn Pontnewydd, where servants of the estate lived;

Ffynonnau estate forest, where we can hear about the history of the house and the wood:

Ffynonnau waterfall and the connection with the Mabinogi;

Bwthyn Tŷ Isaf, Cwmfelin, and its connection with the former prime minister, David Lloyd George.

Afterwards: For those who wish, we can socialise at the Nag's Head Pub, Abercuch, after the walk.

Diogelwch ar deithiau – rhag damweiniau

  • darllenwch fanylion y daith i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol;
  • dewch â dillad addas gan ystyried adeg y flwyddyn a rhagolygon y tywydd, yn enwedig esgidiau cymwys i dir gwlyb ac anwastad;
  • cadwch gysylltiad â gweddill y criw trwy aros o flaen y trefnydd a fydd wrth gefn y rhes o gerddwyr;
  • hysbyswch drefnydd os gadewch chi’r daith yn gynnar;
  • cadwch gŵn ar dennyn;
  • cymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded: 
    • ar hyd ffyrdd heb balmant;
    • ar lethrau serth;
    • ar lwybrau lle mae disgyniad ar un ochr fel yn aml ar lwybrau’r arfordir

Safety on walks - from accidents

  • read the details of the walk to ensure that you are able to complete it without undue delay;
  • bring suitable clothing taking into consideration the time of year and weather forecasts, especially footwear suitable for wet and uneven terrain;
  • stay in touch with the rest of the group by keeping in front of the organiser who will be at the back of the line of walkers;
  • inform an organiser if you leave early;
  • keep dogs on a lead;
  • take special care when crossing roads and when walking:
    • along roads without pavements;
    • on steep slopes;
    • on routes where there is a descent on one side as is often the case on coastal paths
Anfonwch Anfonwch
Rhannwch Rhannwch
Trydarwch Trydarwch
Cyhoeddwyd gan dysgu.com yn 2022, dan drwydded Comins Creadigol.
Erys hawlfraint y lluniau gyda'r ffotograffwyr gwreiddiol. 




darllen ar y we / read on the web

dat-danysgrifio o'r rhestr / unsubscribe from this list   

diweddaru dewisiadau tanysgrifio / update subscription preferences 

Email Marketing Powered by Mailchimp