Copy
Digwyddiadau Cymraeg yn ardal Aberteifi
Welsh language events in the Cardigan area

Pethe Cylch Teifi

Digwyddiadau Cymraeg yn ardal Aberteifi. 
Welsh language events in the Cardigan area.

Llun yr Wythnos - manylyn o'r llun "Yn y Dyddiau Hyn" (2020), gan Iwan Bala. Bydd arddangosfa gan yr artist yn agor yn Oriel Canfas Aberteifi ar yr 8fed o Hydref. Manylion fan hyn. Cewch weld rhagor o waith Iwan Bala ar ei wefan.
Pic of the Week - detail of the picture "In These Days" (2020), by Iwan Bala. An exhibition by the artist will open in Cardigan's Canfas Gallery on the 8th of October. Details here. You can see more of Iwan Bala's work on his website.

Pethau Newydd

Fel arfer, dw i'n rhoi dolenni sydyn i'r pethau newydd yn y cylchlythyr fan hyn, ond mae popeth yn yr adran "Digwyddiadau" a "Gwaith Cartre" yn newydd y tro hwn!
Normally, I put quick links to the new stuff in the newsletter here, but everything in the "Events" and "Homework" sections is new this time!

Hysbysebion

Cynllun "Siarad"

Beth yw Siarad?
  • Dyma gynllun gwirfoddol sy’n dod â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ynghyd ar gyfer sgwrsio anffurfiol mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.
  • Nod y cynllun yw cynyddu hyder dysgwyr a’u cyflwyno i gyfleoedd i ddefnyddio’u Cymraeg yn lleol.
  • Mae parau yn trefnu cwrdd am 10 awr dros gyfnod o wythnosau a misoedd.
  • Mae’r cynllun ar gael i ddysgwyr ar gyrsiau CanolraddUwch neu Hyfedredd.
     
Y cydlynydd i'n hardal ni yw Richard Vale, felly os hoffech chi wirfoddoli fel siaradwr rhugl, neu gymryd rhan yn y cynllun fel dysgwr, yna gysylltwch â Richard ar riv1@aber.ac.uk

Mae rhagor o fanylion ar wefan y Ganolfan Genedlaethol.
What is Siarad?
  • The scheme brings Welsh speakers and learners together for 10 hours of informal conversations in social settings.
  • The aim is to increase learners' confidence and introduce them to opportunities to use their Welsh locally.
  • The scheme is available to learners on Intermediate (Canolradd), Advanced (Uwch) or Proficient (Hyfedredd) level courses. Please note that it's not suitable for learners who haven't yet reached those levels.
The co-ordinator for our area is Richard Vale, so if you would like to volunteer as a fluent speaker, or take part in the scheme as a learner, then contact Richard on riv1@aber.ac.uk

More details are on the National Center website.

Sgwrsio... a mwy!
Conversation... and more!

Dydd Llun
  • Clwb Darllen Sir Gâr - bob yn ail dydd Llun / every other Monday, 3.00pm - 4.00pm. Addas i lefel Mynediad 1 a 2, sesiwn hwyliog ar Zoom / Suitable for Entry 1 & 2 level, an informal Zoom meeting. (Cara Llywelyn-Davies cel19@aber.ac.uk

Dydd Mawrth
  • Bore Coffi Cymdeithas yr Iaith - Bob yn ail Ddydd Mawrth, 10.00am - 4 ac 18 Hydref, 1 a 15 Tachwedd, 6 a 20 Rhagfyr (Carol Jenkins - post@cymdeithas.cymru)
     
  • Coffi a Chlonc Aberaeron - bob bore Mawrth, 10.30 - 12.00, Tafarn y Castell, Aberaeron (Arwel Jones - ja.jones50@btinternet.com)
     
  • Clwb Darllen i Oedolion - trydedd nos Fawrth y mis, 7yh (cofrestru gyda ceris@mgsg.cymru
     
  • 🍻 Grŵp Sgwrsio Lland'och (yn fyw!) - yr ail a'r 4edd nos Fercher ym mhob mis, 7.00yh, Yr Hydd Gwyn (White Hart), Llandudoch. (Kathleen Finlayson tlwsfan1@gmail.com)
     
  • Clwb Darllen i Ddysgwyr - nos Fawrth olaf y mis, 7yh (cofrestru gyda ceris@mgsg.cymru) - poster
     
Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener Dydd Sul

Digwyddiadau

Dydd Sadwrn, 1 Hydref 2022
Waldothon, Ffostrasol

1 Hydref Bore Sadwrn, 10.30 Neuadd Ffostrasol: 

Waldothon - Bore cymdeithasol yn darllen cerddi Waldo gyda chyflwyniadau.

A social morning of poetry readings and presentations about Waldo Williams.

Nos Sadwrn, 1 Hydref 2022
Cymdeithas Ceredigion

Caffi Emlyn Tanygroes, 7.30 - sgwrs gan Wynne Melville Jones - Fi, Mr Urdd a’r Cwmni Da.  

Welsh language cultural society, monthly meeting in Tan-y-Groes.

Nos Fercher, 5 Hydref 2022
Gafael Tir, Cilgerran

Neuadd Cilgerran, nos Fercher 5ed o Hydref. Tocynnau ar gael o'r Neuadd.

Y sioeau byw cyntaf i'r criw aml-dalentog yma, a'r un cyntaf oll ar ein stepen drws yng Nghilgerran!

(O wefan Gafael Tir):
Mae’r sioe yn dilyn hynt a helynt y werin a’u brwydr dros fywyd gwell. Adroddir eu straeon i gyfeiliant hen faledi a chaneuon, a chawn glywed am frenhinoedd, ffermwyr yn croeswisgo, pregethwyr radical, gweithwyr tir ac undebau. Dyma fil o flynyddoedd o hanes wedi ei wasgu i mewn i un perfformiad. Ynghyd â thynnu ar gelfyddydau gwerin Cymru, mae’r sioe’n cyffwrdd ar wleidyddiaeth, hawliau dynol, rhyddid meddwl a mynegiant, yr hawl i wrthdystio a hanes democratiaeth ym Mhrydain.

(Multimedia show about the history of land rights and protest in Wales. Not sure if there'll be translation facilities, sorry.)

Dydd Sadwrn, 8 Hydref 2022
Cerddwyr Cylch Teifi - Ffynonne / Capel Newydd

Cerddwyr Cylch Teifi:  8fed o Hydref 2022

Ffynonnau, Capel Newydd

Arweinydd: Ali Evans

Byddwn ni’n gadael y maes parcio ger Llyn Ffynonnau am 10:30yb (SN 243 382; ardal cod post SA37 0HQ).

Y daith: Taith gylch wrth-glocwedd o ryw 2.75 milltir a dwy awr, yn bennaf ar draciau coedwigaeth da. Awn ni ar y llethrau uwchlaw’r llyn i Gwm Blaen Bwlan; wedyn ar lwybr ceffylau i ailymuno â’r traciau coedwigaeth ar ochr arall y llyn ac yn ôl arnynt i’r maes parcio.  

Esgyniad: cyfanswm o tua 300 troedfedd, y rhan fwyaf ar y dechrau. Mae angen gofal ar ran gyntaf y llwybr ceffyl wrth inni fynd i lawr llechwedd serth a llithrig.  

Pwyntiau o ddiddordeb: Wrth gerdded, byddwn yn dysgu llawer am hanes ystad Ffynonnau, e.e Cerddwn ni heibio.: 

Bwthyn Pontnewydd, lle roedd gweision y stad yn byw;

Coedwig stad Ffynonnau, lle cawn glywed am hanes y tŷ a’r coed;

Rhaeadr Ffynonnau a’r cysylltiad â’r Mabinogi; 

Bwthyn Tŷ Isaf, Cwmfelin, a’i gysylltiad â’r cyn brif weinidog, David Lloyd George.

Wedyn: I’r rhai sydd eisiau, gallwn gymdeithasu yn Nhafarn y Nag’s Head, Aber-cuch, ar ôl y daith.

Am ragor oi fanylion, cysylltwch â Philippa - philippa.gibson@gmail.com 01239 654561

Cerddwyr Cylch Teifii Walkers: 8th October 2022

Ffynonnau, Newchapel

Leader: Ali Evans

We’ll leave the car park near Llyn Ffynonnau at 10:30am (SN 243 382; in the area of postcode SA37 0HQ).

The walk: An anti-clockwise circular walk of around 2.75 miles and two hours, mainly on good forestry tracks. We’ll go on the slopes above the lake to Cwm Blaen Bwlan; then on a bridleway to rejoin the forestry tracks on the other side of the lake and back on them to the car park. 

Ascent: about 300 feet total, most at the start. Care is required on the first part of the bridleway as we go down a steep and slippery slope.

Points of interest: While walking, we’ll learn a lot about the history of the Ffynonnau estate, e.g. We’ll walk past.:

Bwthyn Pontnewydd, where servants of the estate lived;

Ffynonnau estate forest, where we can hear about the history of the house and the wood:

Ffynonnau waterfall and the connection with the Mabinogi;

Bwthyn Tŷ Isaf, Cwmfelin, and its connection with the former prime minister, David Lloyd George.

Afterwards: For those who wish, we can socialise at the Nag's Head Pub, Abercuch, after the walk.

For more information, contact Philippa - philippa.gibson@gmail.com 01239 654561

Dydd Llun, 10 Hydref 2022
Dosbarth Gloywi Iaith, Aberteifi

Dosbarth Gloywi gyda Richard Vale yn Aberteifi.

Bydd y dosbarth newydd yn cwrdd rhwng 10am a 12 yn Nhŷ Cadwgan wrth Gastell Aberteifi bob dydd Llun gan ddechrau 10/10/22.

Bydd yn addas i bobl sy wedi astudio cyrsiau Uwch ac eisiau parhau i wella eu gwybodaeth a’u sgiliau.

Does dim cwrslyfr, ond bydd cymysgedd o siarad, darllen, gwrando a deall, gramadeg ac ysgrifennu creadigol. Bydd cyfres o themâu yn ystod y flwyddyn, a'r thema gyntaf fydd y Mabinogi.
Os hoffech chi wybod mwy, cysylltwch â Richard ar riv1@aber.ac.uk

neu gofrestru yma: Cwrs Gloywi Iaith

(a course for experienced Welsh learners)

Dydd Mercher, 12 Hydref 2022
Bore Coffi Cymraeg, Llechryd

(Neges gan Cered)

Mae Cered: Menter Iaith Ceredigion am ddechrau Bore Coffi Cymraeg yn Neuadd Y Cwrwgl, Llechryd ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr. Bydd yr un cyntaf ar yr ail dydd Mercher o Hydref, sef y 12fed am 11am ac yna’r 4ydd dydd Mercher o Hydref sef y 26ain. Byddant yna yn parhau i fod tan y Nadolig ar yr ail a’r pedwaredd dydd Mercher o’r mis.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â cered@ceredigion.gov.uk
(A message from Cered)

Cered: Menter Iaith Ceredigion is about to start a Welsh Coffee Morning at Neuadd Y Cwrwgl, Llechryd for Welsh speakers and learners. The first one will be on the second Wednesday of October, which is the 12th at 11am and then the 4th Wednesday of October which is the 26th. They will then continue until Christmas on the second and fourth Wednesday of the month.

For more information, contact cered@ceredigion.gov.uk

Dydd Mercher, 12 Hydref 2022
Paned a Phapur, Drefach Felindre

Grŵp sgwrsio arall sy'n dychwelyd i'r byd go iawn!

Cyfle i sgwrsio dros ddished mewn awyrgylch hamddenol. Croeso mawr i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.

Dydd Mercher (bob pythefnos), am 12 yp, yn Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre.

I gofrestru, cysylltwch â luned@mgsg.cymru

Rhagor o fanylion ar wefan yr Amgueddfa
Another chat group returning to the real world!

An opportunity to chat over a dish in a relaxed atmosphere. A warm welcome to Welsh speakers and learners.

Wednesday (every fortnight), at 12pm, at the Welsh Wool Museum, Drefach Felindre.

To register, contact luned@mgsg.cymru

More details on the Museum's website

Nos Fercher, 12 Hydref 2022
Cymrodorion Aberteifi

Cymdeithas Cymrodorion Aberteifi a'r Cylch

12fed Hydref 2022 am 7 yn Festri Bethania

Darlith gan Mr Gerwyn Morgan, Biwla ar "Sgweiars y Teifiside"

(Welsh language cultural society, monthly meetings)

Nos Iau, 13 Hydref 2022
Clwb Hanes

Siaradwr gwadd y mis hwn:

Dr Bleddyn Huws: T H Parry Williams a’r Rhyfel Byd Cyntaf

Mae Dr Huws yn gyd-olygydd Dwned, cylchgrawn hanes a llên Cymru'r Oesoedd Canol.

Mae Clwb Hanes yn cwrdd unwaith y mis ar-lein ar un ai nos Iau neu fore Gwener, gan ddibynnu ar argaeledd y siaradwyr gwadd, a bydd y sesiynau hyn yn addas i ddysgwyr lefel Uwch a Hyfedredd a dysgwyr da ar lefel Canolradd.

Bydd cyfle i holi cwestiynau ar ddiwedd pob sesiwn.
Er mwyn derbyn manylion cysylltu, cysylltwch â Richard Vale (riv1@aber.ac.uk).

Croeso cynnes i bawb. Dyma'r ddolen i'r cyfarfod ar Zoom
https://zoom.us/j/96220974441?pwd=ZGs3OVFtM2NIT0ZWdTR0YTk5N2FPdz09

Dydd Iau 3 - Nos Sadwrn 5 Tachwedd 2022
Lleisiau Eraill Aberteifi 

(Neges oddi wrth Theatr Mwldan)

Mae’n bleser gennym ddweud wrthych y bydd Lleisiau Eraill Aberteifi yn dychwelyd i’r dref yr Hydref hwn, y tro hwn dros dridiau o ddydd Iau’r 3ydd i ddydd Sadwrn y 5ed o Dachwedd.
 
Bydd cerddoriaeth fyw, perfformiadau a thrafodaethau yn digwydd mewn lleoliadau o gwmpas y dref dros dridiau.
 
Bydd bandiau arddwrn yn mynd ar werth ddydd Mawrth 20fed Medi (10am) am £20 (yn codi i £25 ar y 13eg o Hydref) trwy othervoices.ie a mwldan.co.uk.
 
Bydd bandiau arddwrn yn rhoi mynediad i chi i’r Llwybr Cerdd ar draws y dref (mwy na 80 o berfformiadau dros dridiau), yn ogystal â’r holl sesiynau Clebran, yn llawn sgyrsiau cyfoethog gyda meddylwyr blaenllaw ym meysydd y celfyddydau, gwleidyddiaeth, newyddiaduraeth a’r byd academaidd.
 
Bydd prynu band arddwrn hefyd yn eich cynnwys yn awtomatig yn y loteri tocynnau aur wythnosol (yn dechrau 23 Medi) i ennill pâr o docynnau aur i weld y prif actau yn sesiynau’r Eglwys (ni ellir prynu tocynnau ar gyfer y sesiynau yn yr Eglwys, rhaid eu hennill). Po gyntaf y prynwch fand arddwrn, y mwyaf o gystadlaethau sydd ar gael i chi ac felly mwyaf oll yw eich siawns o ennill. Mae gennym hefyd nifer o wobrau arbennig iawn gan fusnesau lleol i'w hennill.
 
Mae bandiau arddwrn yn rhad ac am ddim i’r rheiny dan 18, ond bydd angen eu cael trwy swyddfa docynnau'r Mwldan (boxoffice@mwldan.co.uk / 01239 621 200 / 12-8pm bob dydd, ar gau ar ddydd Llun), mae’n bosib bydd angen prawf oedran.
(A message from Theatr Mwldan)

We are delighted to tell you that Other Voices Cardigan will be returning to the town this Autumn, this time over three days from Thursday the 3rd - Saturday the 5th of November. 
Live music, performance and discussions will take place at venues around the town over three days. 

Wristbands will go on sale on Tuesday 20th September (10am) for £20 (increasing to £25 on the 13th of October) via othervoices.ie and mwldan.co.uk

Wristbands will get you into the Music Trail across the town (over 80 performances over three days), as well as all of the Clebran sessions, full of enriching conversation with leading thinkers across the arts, politics, journalism and academia. 

Purchasing a wristband will also automatically enter you into the weekly golden ticket lottery (starting 23 September) to win a pair of golden tickets to see the headline acts in the Church sessions (tickets can only be won, not purchased, for the Church sessions). The sooner you buy a wristband, the more competitions and therefore the greater chance of winning. We also have a number of really special prizes from local businesses to win. 

Wristbands for under 18s are free, but will need to be obtained via the Mwldan box office (boxoffice@mwldan.co.uk / 01239 621 200 / 12-8pm daily, closed Mondays), proof of age may be required.

Gwaith Cartre

Mae eisteddfodau wedi dechrau eto ac isod mae manylion am eisteddfodau byw lleol gyda chystadlaethau i ddysgwyr. Mae rhestr o Eisteddfodau eraill yma:  http://smala.net/steddfota/?page_id=285

Os hoffech ragor o fanylion, cysylltwch â Philippa Gibson philippa.gibson@gmail.com 01239 654561

 

Eisteddfods have started happening again and below are details of a local live eisteddfods with competitions for learners. There is a list of other eisteddfods here:
http://smala.net/steddfota/?page_id=285

If you would like more details, please contact Philippa Gibson  philippa.gibson@gmail.com   01239 654561

Eisteddfod Cymdeithas Ceredigion

Cawl ac Eisteddfod Gŵyl Dewi

Beirniad: Y Prifardd Hywel Griffiths

(i ddechrau am 7pm yng Nghaffi Emlyn, Tanygroes)

Cystadleuaeth Ail Iaith [sef wedi dysgu Cymraeg] (barddoniaeth neu ryddiaith): Gorwel

Gwobr £10

Rhaid i bob ymgais unigol fod o dan ffugenw, gydag enw'r ymgeisydd ar wahân.  Derbynnir cynigion drwy’r post arferol neu drwy e-bost. Y cyfansoddiadau i law Gwenda Evans, Awelfor, Sarnau, Llandysul, Ceredigion SA44 6QS  01239 654552 gwendaevans257@btinternet.com erbyn y dyddiad cau, dydd Llun 13 o Chwefror 2023.

Cyhoeddwyd gan Dysgu.com yn 2022 , dan drwydded Comins Creadigol.
Erys hawlfraint y lluniau gyda'r ffotograffwyr gwreiddiol. 




darllen ar y we / read on the web

datdanysgrifio o'r rhestr / unsubscribe from this list   

diweddaru dewisiadau tanysgrifio / update subscription preferences 

adnoddau ar-lein eraill / other online resouces

Facebook | Twitter

Email Marketing Powered by Mailchimp