Copy

 
Mae hwn yn ebost dwyieithog | This is a bilingual email
"Dy'n ni ddim yn dweud wrth yr athrawon": deall a mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau addysg
“We don’t tell the teachers”: understanding and addressing sexual harassment in education settings
Ry'n ni'n falch o gyhoeddi y bydd ein digwyddiad Dosbarth meistr 2023 yn cael ei gynnal yn rhithiol ar 18 Mai 2023, 16:00-17:45. 

Dan arweiniad y prif siaradwr EJ Renold (Athro Astudiaethau Plentyndod yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd), bydd y digwyddiad yn cynnwys mewnbwn gan NSPCC, Brook, Barnados a Cymorth i Ferched Cymru.

Bydd y digwyddiad yn cefnogi ymarferwyr addysg i ddeall y ffyrdd anwastad, amrywiol, wedi ei normaleiddio y mae plant a phobl ifanc yn profi aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, mewn lleoliadau addysg, ar-lein ac yn eu cymunedau.

Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim. Gall ymarferwyr gael eu tocynnau am ddim nawr.
We are pleased to announce that our Masterclass 2023 will be held virtually on 18 May 2023, 16:00-17:45. 

Led by keynote speaker EJ Renold (Professor of Childhood Studies at the School of Social Sciences, Cardiff University), the event will also feature inputs from NSPCC, Brook, Barnados, and Welsh Women’s Aid.

The event will support education practitioners to understand the uneven, diverse, and normalised ways in which children and young people experience peer-to-peer sexual harassment, in education settings, online, and in their communities.

This is a free event. Practitioners can get their free tickets on our website now.
Cofrestru a rheoleiddio
Registration and regulation
Adnewyddu cofrestru ar gyfer 2023-24
Os ydych yn cyflogi cofrestreion mewn contract, byddwch wedi cael e-bost gennym gyda'r hysbysiad statudol yn gofyn eich bod yn tynnu'r ffioedd adnewyddu o gyflogau mis Mawrth eich cyflogeion. Mae angen i chi anfon un taliad ar eu cyfer i gyd gyda'i gilydd. Os nad ydych wedi derbyn yr e-bost yna, cysylltwch â'r tîm.
Renewal of registration for
2023-24

If you employ contracted registrants, you will have received an email from us with the statutory notice requiring you to deduct the renewal fees from your employees’ March salaries. You need to send us one bulk payment for them all. If you have not received that email, contact the team.
Recriwtio aelodau lleyg
Rydym yn recriwtio aelodau lleyg panel ar gyfer ein gwaith achos priodoldeb i ymarfer.

han o'n rôl rheoleiddio yw ymchwilio i, ac ystyried unrhyw achosion allai gwestiynu priodoldeb i ymarfer cofrestreion. Mae aelodau ein paneli yn rhan hanfodol i'r gwaith hwn. Mae mwy o wybodaeth am y rôl ar ein gwefan, gan gynnwys sut i ymgeisio.
Lay member recruitment
We are recruiting lay panel members to our fitness to practise casework.

Part of our regulatory function is to investigate and consider cases that may call into question a registrant’s fitness to practise. Our panel members are vital to this work. Find out more information about the role on our website, including how to apply.
Newidiadau cofrestru
Rydym wedi cyhoeddi ein hymateb yn llawn i ymgynghoriad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar newidiadau i gategorïau cofrestru. Darllennwch ein hymateb yn llawn ar ein gwefan.

Cadwch lygad ar ein gwefan am fwy o wybodaeth am y newidiadau. Rydym yn disgwyl iddynt ddod i rym o fis Mai 2023.
Changes to registration
We have published our full response to Welsh Government’s latest consultation on changes to registration categories. You can read our response in full on our website.

Keep an eye on our website for further information about the changes, which we expect to take effect from May 2023.
Canllawiau, adnoddau a gwasanaethau proffesiynol
Guidance, resources, and professional services
Newidiadau sefydlu
Yn ddiweddar, fe wnaeth Llywodraeth Cymru newidiadau i'r amserlenni ar gyfer cwblhau sefydlu. Mae'n effeithio'r rheiny sydd heb gwblhau sefydlu eto. Mae mwy o wybodaeth ar y newidiadau ar gael ar dudalennau sefydlu ein gwefan.
Changes to induction
Recently, Welsh Government have made changes to the timescales for completing induction. This affects those who have not yet completed induction. More information on the changes can be found on the induction pages of our website.
Dysgu proffesiynol a'r PDP
Wyddech chi, yn ogystal â chefnogi cofrestreion gyda'u dysgu proffesiynol, bod y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) nawr hefyd yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau i gefnogi rhaglenni lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Os oes diddordeb gyda chi'n darganfod sut gall y PDP helpu cefnogi eich staff ymhellach, e-bostiwch y tîm datblygiad proffesiynol.
Professional learning and the PLP
Did you know that in addition to supporting registrants with their professional learning, the Professional Learning Passport (PLP) is now also being used by organisations to support local, regional, and national programmes.

If you are interested in how the PLP can further support your staff, email the professional development team.
Cefnogi iechyd meddwl a lles
Ry'n ni'n gwybod, er mwyn cefnogi ein plant, pobl ifanc a dysgwyr eraill cystal ag y gallant, bod angen i'n cofrestreion gymryd gofal am eu hiechyd meddwl a'ch lles. I'w cefnogi i wneud hyn rydym wedi ymuno gyda'r elusen genedlaethol Education Support, i greu canllaw arfer da ar iechyd meddwl a lles.
Supporting mental health and wellbeing
We know that in order to support our children, young people and other learners as best they can, our registrants need to take care of their own mental health and wellbeing. To support them, we have partnered up with national charity, Education Support, to produce a wellbeing good practice guide.
Canllaw i rieni
Ry'n ni wedi gweithio gyda'r elusen Parentkind i ddiweddaru ein canllaw i rieni a gwarcheidwaid, ar beth allant ddisgwyl gan addysgwyr. 

Mae'r canllaw wedi'i gyhoeddi ar ein gwefan. Cymrwch amser i'w ddarllen a'i rannu gyda grwpiau rhieni a gwarcheidwaid, llywodraethwyr a chymdeithasau rhieni ac athrawon.
Parent guide
We’ve worked with the charity Parentkind to update our guide for parents and guardians on what they can expect from educators.

The guide has been published on our website. Please take the time to read it and share it with parent and guardian groups, governors, and PTAs.
Addysgwyr Cymru
Mae Addysgwyr Cymru yn wasanaeth cenedlaethol a ddatblygwyd gan CGA ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg.
 
Os yw'ch sefydliad yn darparu cymwysterau, dysgu proffesiynol neu swyddi gwag, gallwch eu hyrwyddo am ddim ar Addysgwyr Cymru. Cofrestrwch nawr ar y wefan, neu cysylltwch â'r tîm  am fwy o wybodaeth.
Educators Wales
Educators Wales is a national service, funded by Welsh Government and developed by the EWC to promote careers in the education professions.
 
If your organisation provides qualifications, professional learning, or you have job vacancies, you can promote them for free on Educators Wales. Register now via the website, or you can contact the team for more information.
Uwch-gynhadledd Addysg y Byd
Mae Uwchgynhadledd Addysg y Byd (WES) yn ôl ar gyfer 2023!

Ry'n ni'n falch o allu cadarnhau, ynghyd â Llywodraeth Cymru, ein bod yn cynnig cyfle unigryw i gofrestreion ysgol ac AB i fynychu'r digwyddiad arloesol ym myd addysg, am ddim.

Mae llefydd yn gyfyngedig. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 20 a 23 Mawrth, ond bydd modd cael mynediad at y cynnwys am flwyddyn. Mynnwch eich lle am ddim nawr.
World Education Summit
The World Education Summit (WES) is back for 2023!

We are delighted to confirm that, alongside Welsh Government, we are offering school and FE registrants a unique opportunity to attend this world leading conference for free.

Spaces are limited. The event will be held between 20 and 23 March, but access to the content will be available for a whole year. Claim your free space now..
Myfyrio ar ddigwyddiad Siarad yn Broffesiynol 2023
Rydym wedi datblygu templedi arbennig i helpu eich cyflogeion adlewyrchu ar y pynciau a drafodwyd yn nigwyddiad Siarad yn Broffesiynol eleni. Mae angen iddynt fewngofnodi i'w Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) a dewis 'Templedi Dysgu Proffesiynol'.
 
Mae recordiad o’r digwyddiad nawr ar gael ar ein sianel YouTube hefyd.
Reflecting on the Professionally Speaking 2023 event
We have developed bespoke templates to help your employees reflect on the topics discussed in this year’s Professionally Speaking event. Registrants just need to log into their Professional Learning Passport (PLP) and select ‘Professional Learning Templates’.
 
The recording of the event is now also available on our YouTube channel.
Meddwl Mawr
Mae ein clwb llyfrau a chyfnodolion yn parhau i gynnig argymhellion ar gyfer nifer o bynciau diddorol gan gyfeirio cofrestreion at gynnwys gwych ar EBSCO, eu llyfrgell ar-lein am ddim. Cyfeiriwch eich staff at ein gwefan i gael yr argymhellion diweddaraf, neu i danysgrifio.
Meddwl Mawr
Our book and journal club continues to bring registrants recommendations covering a range of interesting topics, pointing them to some of the great content available on EBSCO, their free online library. For the latest recommendations, or to subscribe, direct them to our website.
Hysbysu polisi
Informing policy
Mewnwelediadau data'r gweithlu
Ry'n ni wedi cyhoeddi ein set ddiweddaraf o fewnwelediadau data yn edrych ar Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG), athrawon cofrestredig mewn rolau arweinyddiaeth, a'r gweithlu cyflenwi.
Workforce data insights
We’ve published our latest set of data insights looking at Newly Qualified Teachers (NQTs), registered school teachers in leadership roles, and the supply workforce.
Arolwg Cenedlaethol AB a DSW 2023
Cofiwch barhau i annog ymarferwyr AB neu DSW, neu staff cymorth busnes yn eich colegau i ddweud eu dweud ar faterion megis llwyth gwaith a lles. Mae'r arolwg yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023.
National FE and WBL Workforce Survey 2023
Please continue to encourage registered FE or WBL practitioners, or business support staff in your colleges to have their say on issues including workload and wellbeing. The survey closes on 31 March 2023.
Rhag ofn i chi ei fethu
In case you missed it
Mae cofrestru ar agor ar gyfer Cynhadledd DARPL 2023
Wedi ei gynnal mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, CGA, yr Academi Arweinyddiaeth, y Black Leadership Group a chonsortia rhanbarthol, bwriad cynhadledd DARPL yw helpu llywio gweithgarwch a datblygiad amrywiaeth ac arweinyddiaeth gwrth-hiliol yn y dyfodol.  Mae llefydd yn gyfyngedig. Mwy o wybodaeth a hawlio eich lle am ddim nawr.
Registration is open for DARPL Conference 2023
Held in partnership with Welsh Government, the EWC, the Leadership Academy, the Black Leadership Group, and regional consortia, DARPL’s conference aims to help shape the future activity and development of diversity and anti-racist leadership.  Spaces are limited. Find out more and claim your free place now.
Recriwtio aseswyr marc ansawdd
Rydym yn chwilio am aseswyr newydd. Mae'r rôl yn un werthfawr, ysgogol ac yn cynnig cyfle datblygu proffesiynol parhaus ardderchog. I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i'r wefan.
Quality mark assessor recruitment
We are looking for new peer assessors. The role is rewarding, motivational, and offers an excellent continuing professional development opportunity. To find out more and to apply, visit the website.
Podlediad
Mae cynlluniau ar y gweill i greu ein podlediad ein hunain yn canolbwyntio ar y prif bynciau sy'n bwysig i chi a'ch cyflogeion. Os oes gyda chi arfer da i'w rannu, neu bynciau yr hoffech i ni eu cynnwys, cysylltwch â ni.
Podcast
Plans are underway to start our very own podcast focussing on the key topics which matter to you and your employees. If you’ve got any good practice to share, or topics you’d like us to cover, please get in touch.
Dirprwy gadeirydd newydd ar gyfer y Bwrdd Achredu AGA
Mae ein Bwrdd Achredu AGA wedi penodi dirprwy gadeirydd newydd. Darllenwch fwy am Dr Christine Jones, a gweddill y bwrdd ar ein gwefan.
New deputy chair of ITE Accreditation Board
Our ITE Accreditation Board (ITEAB) has appointed a new deputy chair. Read more about Dr Christine Jones, and the rest of the ITEAB on our website.
Facebook
Ry'n ni nawr ar Facebook! Dewch i'n dilyn ni i gael y newyddion, gwybodaeth a swyddi gwag diweddaraf.
Facebook
We are now on Facebook! Come and follow us for the latest news, information, and vacancies.
Gwahodd ni i ddigwyddiad
Oeddech chi'n gwybod ein bod ni'n cynnal hyfforddiant a gweithdai ledled Cymru i'n grwpiau cofrestru a rhanddeiliaid? Mae ein harbenigedd yn cynnwys nifer o bynciau sy'n berthnasol i'n gwaith. I gael mwy o wybodaeth, neu i'n gwahodd i ddigwyddiad, llenwch y ffurflen ar ein gwefan.
Invite us to an event
Did you know we deliver training and workshops across Wales to our registrant groups and stakeholders? Our expertise covers a range of topics related to our work. To find out more, or to invite us along, fill the form on our website.
Dilynwch ein sianeli
Follow our channels
Gallwch gadw i fyny â’r newyddion diweddaraf gan CGA ar Twitter, LinkedIn, YouTube a’n gwefan. Ac rydym ni nawr ar Facebook hefyd – dilynwch ni!
You can stay up to date with the latest news from EWC on Twitter, LinkedIn, YouTube and our website. And now we’re also on Facebook, come and give us a follow!
Twitter
LinkedIn
Facebook
YouTube
Website
Hawlfraint © 2023 Cyngor y Gweithlu Addysg

Cyngor y Gweithlu Addysg
35-43 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0AB

Dad-danysgrifio o'r rhestr bostio hon.
Copyright © 2023 Education Workforce Council

Education Workforce Council
35-43 Newport Road
Cardiff 
CF24 0AB

Unsubscribe from this list.






This email was sent to <<Cyfeiriad e-bost | Email address>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Cyngor y Gweithlu Addysg / Education Workforce Council · 35-43 Newport Road · Cardiff · Wales, Cardiff CF24 0AB · United Kingdom