Os oes unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r cyfleoedd a restrir isod, cysylltwch â Dylan Williams, Arweinydd Prosiect Tegwch a Llesiant Rhanbarthol Dylan.williams@partneriaeth.cymru
- Rhwydwaith Tegwch mewn Addysg - 10yb-12yp 21 Mawrth - Microsoft Teams
Rhwydwaith dysgu proffesiynol rhanbarthol newydd sbon i unrhyw aelod o staff sydd â diddordeb neu gyfrifoldeb am gefnogi dysgwyr difreintiedig a bregus. Bydd ein rhwydwaith cyntaf yn 2023 yn edrych ar effaith tlodi ar ddysgwyr, yn ystyried dulliau rhyngwladol o degwch a thrafod arferion effeithiol o amgylch ymgysylltu teuluol â'r gymuned. COFRESTRWCH YMA
- Chwarae sy’n seiliedig ar Berthnasoedd – 24 Mawrth, 9.30 – 3, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin. Bydd y diwrnod hyfforddi hwn yn rhoi dull clir sy'n seiliedig ar berthynas i ymarferwyr ar gyfer chwarae strwythuredig. Gellir ei wreiddio mewn ymarfer dyddiol er mwyn cefnogi dysgwyr ar hyn o bryd i feithrin cysylltiadau, datblygu ymdeimlad o hunan-effeithiolrwydd a meithrin teimladau o ddiogelwch, tawelwch a gobaith. Bydd Helen Worrall yn tynnu ar ei phrofiad helaeth a'i gwybodaeth arbenigol o gefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed neu ddifreintiedig. COFRESTRWCH YMA
- Cyflwyniad i Iechyd Meddwl Gwydn -29 Mawrth, 9.30 – 11.30yb, Microsoft Teams. Bydd y sesiwn rithiol hon yn cyflwyno fframwaith ar gyfer deall datblygiad lles seicolegol mewn plant a phobl ifanc ac yn cyflwyno'r 6 egwyddor graidd sy'n angenrheidiol ar gyfer cefnogi lles seicolegol plant a phobl ifanc. Cwrs lefel 1 yw hwn ac mae'n gam cyntaf defnyddiol i unrhyw ymarferydd sydd â diddordeb mewn deall a datblygu gwytnwch ac iechyd meddwl mewn pobl ifanc. COFRESTRWCH YMA
|
|