Copy
Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon – Newyddion a Digwyddiadau mis Hydref 2016
View this email in your browser
Facebook
Facebook
Twitter
Twitter
Website
Website

Digwyddiadau ac Atyniadau

Canolfan Dreftadaeth y Byd a Llyfrgell Blaenafon

Hwyl gyda gwyddoniaeth yr hanner tymor hwn gydaTechniquest!
Gweithgareddau sy’n addas i bob oedran!
• Balansio Coesau Ysgubau
• Sedd Hoelion
• Tric Rhaff
• Tric Rhaff Cylched Dynol
 
Rhad ac am ddim. Dim angen trefnu ymlaen llaw.
25 - 26 Hydref 2016 10am - 5pm
Ffôn: 01495 742333 www.visitblaenavon.co.uk
Taith gyda’r Nos yng Ngwaith Haearn Blaenafon – Hanes Bwganllyd a Straeon Gwerin
17eg, 19eg, 27ain a 30ain Hydref: Taith Hanes Bwganllyd a Straeon Gwerin 7pm – 9pm
Ymunwch â ni am daith gyda’r nos o gwmpas Gwaith Haearn Blaenafon gyda straeon bwganod a llên gwerin hanesyddol, addas i oedolion yn unig. £10 y tocyn o siop Gwaith Haearn Blaenafon - 01495 792615 – yn cynnwys diod boeth a lluniaeth ysgafn. Dylech wisgo esgidiau addas ar gyfer tir garw a dillad sy’n addas i’r tywydd, a dewch a thortsh fechan gyda chi.
31ain Hydref: Taith Arswyd i Blant – Taith fwganllyd i blant yn ystod y dydd o gwmpas y Gwaith Haearn. Gwobr i’r 100 plentyn cyntaf i gwblhau’r daith.
Mwy o wybodaeth.

Rheilffordd Dreftadaeth Blaenafon – Trenau Ysbrydion
Mae trenau’n rhedeg yn rheolaidd o Orsaf Seidins Ffwrnais rhwng 4pm a 9pm ar ddydd Sadwrn 29ain hyd at ddydd Llun 31ain Hydref 2016.  Tocynnau: £5.00
Mwy o wybodaeth.

Gweithgareddau Hanner Tymor yn Amgueddfa Lo Genedlaethol y Pwll Mawr
Crëwyd Tomen Coity tra roedd y Pwll Mawr, a’i ragflaenydd Pwll  Coity, yn gweithio a phwll haearnfaen oedd yn bennaf. Roed tomenni fel hyn unwaith yn bethau cyfarwydd mewn cymunedau diwydiannol lle’r oedd craig a siâl o’r broses fwyngloddio yn cael eu gadael ar yr wyneb, yn newid y dirwedd a’r amgylchedd am byth. Pan ddaeth y tipio i ben, dechreuodd natur adennill y domen a’r ardal o gwmpas yn raddol, ac mae bellach yn gyfoeth o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid.
Dewch draw o ddydd Llun 24ain Hydref i ddydd Gwener 28ain i gael hwyl gyda ni yn gwneud tylluanod crefftus ac anifeiliaid eraill y medrwch eu gweld heddiw ar Domen Coity. Bydd crefftau hydrefol eraill hefyd. I drefnu, ffoniwch: 02920 573650.  Bydd angen talu tâl bychan.

Amgueddfa Blaenafon i gymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru
Cynhelir Gŵyl Amgueddfeydd Cymru o 22-30 Hydref 2016. Bydd Amgueddfa Gymunedol Blaenafon yn cynnal nifer of weithgareddau AM DDIM fel rhan o’r Ŵyl a fydd yn cynorthwyo ymwelwyr a phobl leol i ddysgu mwy am ein casgliadau ac am gymuned Blaenafon. Bydd dwy sgwrs – ‘Alexander Cordell a’i Etifeddiaeth’ a  ‘Blaenafon a’r Goruwchnaturiol ’ (dyddiadau/amserau i’w cadarnhau). Hefyd bydd taith gerdded o gwmpas Blaenafon, gan edrych ar hanes tywyll y dref ar 27 Hydref am 6yh, gan ddechrau o Neuadd y Gweithwyr. Trwy’r wythnos bydd mynediad AM DDIM gyda thaflenni gwaith a gemau i blant a’u teuluoedd. Ffoniwch 01495 790991 neu e-bostiwch blaenavonmuseum@outlook.com am fwy o fanylion.

COFIWCH Y DYDDIAD!

Dydd Sadwrn 10fed Rhagfyr - Cracer Nadolig Blaenafon

Newyddion

Capel Bethlehem
Ym mis Hydref rydym yn cynnal gwasanaeth i gynnwys atgofion Capel Bethlehem. Rydym yn sylweddoli bod llawer o bobl yn y dref sydd â chysylltiad â’r capel, efallai wedi priodi yno neu fynd i’r Ysgol Sul, neu efallai’n cofio digwyddiadau a gynhaliwyd yn ystafell yr ysgol?
Rydym eisiau clywed eich atgofion chi a’u cynnwys mewn gwasanaeth byr gydag emynau traddodiadol. Wedyn bydd “te ysgol Sul” ar ddydd Sul 2il Hydref am 3pm. Buasem wrth ein boddau yn clywed eich atgofion chi.
Dewch i ymuno â ni!
Dewch draw i wneud eich addurniadau a’ch anrhegion Nadolig mewn sesiynau crochenwaith hwyliog a arweinir gan y crochenydd lleol Kevin Driscoll.
Dim ond £20 am 8 sesiwn (yn cynnwys deunyddiau a lluniaeth). Yn dechrau ar 4ydd Hydref.
I drefnu, ffoniwch Anthony ar 07824430863 neu ebostiwch - ayresanthon@msn.com

Gwirfoddolwyr Blaenafon yn ennill Gwobr Wirfoddoli Genedlaethol
Mae’r gwirfoddolwyr yn Amgueddfa Gymunedol Blaenafon wedi ennill Gwobr Marsh am Wirfoddolwyr ar gyfer Dysgu mewn Amgueddfeydd, a hynny ar gyfer Cymru a’r Deyrnas Unedig. Derbyniodd y tîm eu gwobrau mewn digwyddiad arbennig yn yr Amgueddfa Brydeinig ar 26 Medi a fynychwyd gan gynrychiolwyr o amgueddfeydd o ledled y wlad.  Mae’r gwobrau, sy’n cael eu trefnu mewn partneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Gristnogol Marsh a’r Amgueddfa Brydeinig yn cydnabod Arferion Gorau a’r ffyrdd mwyaf arloesol gan wirfoddolwyr o ymgysylltu’r cyhoedd â chasgliadau.  Cyflwynir gwobr y Deyrnas Unedig lle mae newid nodedig wedi bod i’r hyn sy’n cael ei gynnig i’r cyhoedd a lle mae dimensiwn unigryw wedi’i gyflwyno i’r ddarpariaeth honno.

image copyright © Benedict Johnson

Hawlfraint © 2016 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cedwir pob hawl.
Rydych yn derbyn yr e-fwletin hwn am eich bod wedi dewis bod ar ein rhestr bostio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy'n eich diweddaru chi ynglŷn â newyddion a digwyddiadau ym Mlaenafon.
Dyma'n cyfeiriad post:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn, Pont-y-pŵl, Torfaen. 
NP4 0LS






This email was sent to <<Email Address>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Torfaen Economy & Enterprise · Torfaen County Borough Council, Ty Blaen Torfaen · Panteg Way, New Inn, Pontypool · Torfaen, Tof NP4 0LS · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp