Copy
Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon  - Rhagfyr 2016 Newyddion a Digwyddiadau
View this email in your browser
Facebook
Facebook
Twitter
Twitter
Website
Website

Digwyddiadau ac Atyniadau

Diwrnod Crefftau’r Nadolig yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon
Dydd Sadwrn 3ydd Rhagfyr 11am - 4pm
Cyfle i wneud teilsen cerameg neu grochenwaith ar droell y crochenydd - anrheg berffaith i’r Nadolig. £1 am bob gweithgaredd crefft. Adloniant gan Fand Cyngerdd Blaenafon a Sesiynau Stori yn y Llyfrgell am 11.30am, 12.30pm a 1.30pm.  Bwydlen yr ŵyl yn y Caffi. I gael mwy o wybodaeth ffoniwch: 01495 742333 www.visitblaenavon.co.uk 

 

 

Siôn Corn yng Ngwaith Haearn Blaenafon
Dewch i weld Siôn Corn yng Ngweithfeydd hanesyddol Blaenafon y Nadolig hwn - a chreu atgofion unigryw gyda’r teulu cyfan! Penwythnosau: 10fed, 11eg a’r 17eg, 18fed Rhagfyr 2016
£3 fesul plentyn i fynd i’r groto gan gynnwys anrheg, mynediad olaf 3.30pm. Mynediad am ddim arferol i’r Gweithfeydd trwy gydol y dydd i ymwelwyr. Mae’r groto i’w gael ar y safle. Ffôn: 01495 792615, ebost: BlaenavonIronworks@Wales.GSI.Gov.UK

 

Mae’n Nadolig … Mrs Siôn Corn a Mr Siôn Corn yn y Pwll Mawr
Cyfle i ymwelwyr iau gyfarfod â Mrs Siôn Corn a chael gwybod beth sy’n digwydd ar aelwyd y Nadolig ar ddydd Sul 11eg Rhagfyr 2016 Ydi Rwdolff wedi bod yn garw da eleni? Ydi Siôn Corn wedi gorffen peintio’r sled? Dewch draw i gael gwybod mwy!
Sesiynau am 11.30am-12.30pm a 1.30pm-2.30pm a RHAID trefnu ymlaen llaw.
Dewch i synnu wrth i Siôn Corn gyrraedd top y Pwll am 10.30am, yn teithio 300 troedfedd I FYNY o danddaear ar ei ffordd i’r Lapdir ar ddydd Sul 18fed Rhagfyr. Unwaith y bydd wedi cyrraedd (ac wedi cael hyd i’r ellyll bach!), bydd cyfle i ymweld ag e yn ei fwthyn, tan 4pm, a dweud wrtho beth sydd ar eich rhestr Nadolig chi. Ydych chi yn y llyfr plant da, neu’r llyfr plant drwg?

Cost: £5 fesul plentyn, rhaid trefnu ymlaen llaw 02920 573650 – Mwy o fanylion  

Rheilffordd Dreftadaeth Blaenafon - Teithiau Siôn Corn - Penwythnosau mis Rhagfyr
Dewch i gael reid ar y trên a chyfarfod Siôn Corn ar un o’n Teithiau Siôn Corn arbennig. Ynghyd â’r cyfle i gyfarfod Siôn Corn, bydd pob plentyn yn derbyn anrheg addas i’w oedran. I’r oedolion bydd Sieri a Mins Pei. Bydd y trenau’n rhedeg yn rheolaidd.

Rhaid trefnu ymlaen llaw - Oedolion £10.00 Plant £10.00 – Mwy o wybodaeth.

Cracer Nadolig Blaenafon – dydd Sadwrn 10fed Rhagfyr – 12pm – 5pm
Maes parcio top Heol Lydan

Groto Siôn Corn ~ Go Karts i’r Plant ~ Mwytho Mulod ~ Stondinau Bwyd a Chrefftau ~ Bwyd Poeth ~ Cerddoriaeth y Nadolig ~ Enwi’r Arth ~ Peintio Wynebau ~ Tatŵs Henna ~ Gweithgareddau i’r Plant
I gael manylion pellach, ffoniwch: 07542 187 137

 
 

Capel Bethlehem
Clwb Cinio
Mae gan ein clwb cinio fwydlen draddodiadol gyda dau gwrs yn cynnwys te neu goffi, bob amser cinio dydd Iau o 12pm. Croeso i bawb – ar hyn o bryd mae 25-30 yn mynychu.
Cynhelir ein cinio Nadolig ac adloniant ar 15fed Rhagfyr am 12 pm a bydd yr adloniant yn cael ei darparu gan Mr John Lloyd. Bydd unrhyw un sy’n dod i ginio yma yn dweud wrthych ei fod yn wych, ac yn medru eich diddanu’n dda!
Y pris yw £4:50 – medrwch gyfrannu mwy os hoffech.

 

Nadolig Blêr
Mae’r digwyddiad Nadolig Blêr yn ffordd hwyliog i deuluoedd ddod at ei gilydd. Bydd hyn yn cynnwys cinio a llawer o grefftau Nadolig a phethau i’w gwneud i’r teulu cyfan. Caiff ei gynnal ar ddydd Sadwrn 17eg Rhagfyr 11am hyd at 1pm yn Busy Bees, Blaenafon.
Yn dechrau ar 28ain Tachwedd byddwn angen eich help gan fod ein defaid wedi dianc ac rydym angen i chi ein helpu ni i gael hyd iddynt! Dewch draw i Busy Bees neu Gapel Bethlehem ar neu o gwmpas 28ain Tachwedd a chael taflen o gliwiau i gael hyd iddyn nhw. Medrwch wedyn ddod â’ch taflenni, wedi eu cwblhau ac yn nodi lleoliad y defaid, i’r digwyddiad Nadolig Blêr i hawlio eich gwobr. Helfa hapus i chi!
I gael mwy o wybodaeth ar unrhyw beth, ffoniwch Anthony ar 07824430863 neu e-bostiwch:
ayresanthony@msn.com

Newyddion Cymunedol

Cymuned yn Uno i Achub Plasty Hanesyddol
Mae aelodau o gymuned Blaenafon wedi ffurfio grŵp newydd i ystyried dyfodol un o adeiladau pwysicaf Safle Treftadaeth y Byd - cyn-gartref Nyrsio y Beeches. Mae'r adeilad rhestredig gradd II wedi bod yn destun fandaliaeth, difrod tân ac esgeulustod ers iddo gau ddegawd yn ôl.
Mae'r grŵp newydd, sy'n cydweithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn anelu i ffurfio Ymddiriedolaeth Cadwraeth, i geisio canfod defnydd newydd, cynaliadwy ar gyfer yr adeilad ac i ddenu arian grant i'w adfer. Nid yw'n mynd i fod yn dasg hawdd, ond nid yw'r gymuned yn barod i roi'r ffidil yn y to o ran yr adeilad hanesyddol a hoffus hwn.
Yn y misoedd i ddod, mae'r grŵp yn anelu i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer y prosiect. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r grŵp, neu gefnogi ei waith, e-bostiwch ysgrifennydd y grŵp ar blaenavonpreservation@outlook.com.
Blaenavon House: Crynodeb o’i Hanes
Mae Blaenafon House, a elwir yn anffurfiol yn 'Great House' neu 'Tŷ Mawr', wedi cael llawer o swyddogaethau drwy gydol ei hanes. Adeiladwyd y plasty 'cyfforddus a choeth' tua 1799 gan y meistr haearn Samuel Hopkins, fu'n byw yno tan ei farwolaeth ym 1815. Yna daeth yn gartref i Thomas Hill II a'i blant cyn iddo gael ei werthu, ynghyd â Gwaith Haearn Blaenafon , i gwmni newydd Blaenavon Iron and Coal Company ym 1836. Ar ôl cael ei werthu, cafodd ei ddefnyddio fel cartref preifat i rheolwyr y cwmni.
Yn y 1920au, gwerthodd Blaenavon Company y plasty i Gymdeithas Cymorth Feddygol Blaenafon, a aeth ati i drosi'r adeilad yn ysbyty ym 1927. Dan reolaeth y gweithwyr, a'i ariannu drwy eu tanysgrifiadau, roedd y cynllun meddygol ymhlith y rhai a gynorthwyodd i ysbrydoli'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Daeth gyfnod yr adeilad i ben fel ysbyty ym 1980 ac yn y diwedd daeth yn gartref nyrsio.

Newyddion Treftadaeth

Safle Treftadaeth y Byd, Blaenafon yn cynrychioli’r DU yng Nghymdeithas Ewropeaidd Treftadaeth Y Byd.
Ym mis Hydref eleni cafodd Safle Treftadaeth y Byd, Blaenafon y fraint o gynrychioli’r DU yng Nghymdeithas Ewropeaidd Treftadaeth y Byd yn ei hail gyfarfod blynyddol yn Segovia, Sbaen ar ôl llwyddiant cenedlaethol a chydnabyddiaeth am eu gwaith ar ymgysylltu pobl ifanc. Mae Llysgenhadon Ifanc Treftadaeth y Byd yn brosiect a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, sy’n anelu at alluogi pobl ifanc o oed 13-25 i gael llais ac i gymryd rhan yn rheoli eu Safle Treftadaeth y Byd.
Mynychodd Ashleigh Taylor, Swyddog Treftadaeth a Daniel Oliver, Swyddog Prosiect Llysgenhadon Ifanc y gynhadledd fawreddog ac annerch y gymdeithas ar “Sut i gynnwys a chaniatáu bobl ifanc i rheoli Treftadaeth Byd”.  Yn dilyn adborth gan Safleoedd Treftadaeth Byd eraill dywedwyd bod Blaenafon yn ysbrydoledig ac yn arwain y ffordd ymhlith dros 50 o safleoedd ledled Ewrop.
Hawlfraint © 2016 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cedwir pob hawl.
Rydych yn derbyn yr e-fwletin hwn am eich bod wedi dewis bod ar ein rhestr bostio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy'n eich diweddaru chi ynglŷn â newyddion a digwyddiadau ym Mlaenafon.
Dyma'n cyfeiriad post:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn, Pont-y-pŵl, Torfaen. 
NP4 0LS






This email was sent to <<Email Address>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Torfaen Economy & Enterprise · Torfaen County Borough Council, Ty Blaen Torfaen · Panteg Way, New Inn, Pontypool · Torfaen, Tof NP4 0LS · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp