Taclo’r Tumble – Ai chi fydd Brenin neu Frenhines nesa’r Tumble? Mae Cymoedd De Cymru yn adnabyddus am eu bryniau a’u dringfeydd ysblennydd ac rydym ni’n gosod her i chi fel rhan o Flwyddyn y Chwedlau yma yng Nghymru. Beth am Daclo’r Tumble gyda Her y Tumble?
Dringfa eiconig 6km gyda golygfeydd godidog ar bob tu yw’r Tumble ac mae’n mynd o Ofilon, Y Fenni tuag at Safle Treftadaeth Y Byd Blaenafon gyda llethr o 10% i ben y Blorens. Mae’n rhan o ras feiciau Taith Prydain ac yn rhan o’r Felothon Cymru blynyddol.
Am fwy o wybodaeth gan gynnwys teithlyfr, dolenni at lefydd i aros a’r tabl ar hyn o bryd, ewch i http://bit.ly/blaenavon-tumble.
Ariennir Her y Tumble trwy Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol Llywodraeth Cymru
Newyddion Cymunedol
Neuadd y Gweithwyr Blaenafon – lleoliad i’w osod Mae Neuadd y Gweithwyr yn lleoliad ardderchog ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau, arddangosfeydd bach, brecwastau priodas, digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau. Mae’r Neuadd lan llofft yn dal 350 o bobl ar ffurf theatr neu 150 i gael pryd o fwyd ac mae’r llwyfan mawr a’r goleuadau a’r sain yn caniatáu i bobl weld theatr, dawns, comedi, cerddoriaeth a nosweithiau gwobrwyo. Mae’r ystafell lawr llawr yn cynnig sinema 80 sedd, bwrdd snwcer a man cyfarfod. Mae’r Neuadd hefyd yn gartref i Amgueddfa Gymunedol Blaenafon. Am wybodaeth ynglŷn â llogi cysylltwch â’r ysgrifennydd ar 01495 792661 neu e-bostiwch: blaenavonworkmanshall@gmail.com
Newyddion Treftadaeth
Ymgyrch Marchnata Arloesol yn creu darlun o’r Cymoedd Mae ymgyrch gyffrous newydd gan brosiect ‘Y Cymoedd a Newidiodd y Byd’ yn dodi safleoedd treftadaeth yn y Cymoedd. Â’i fryd ar fynd a phobl ar antur - mae’n rhoi tro bach i’r syniad traddodiadol o deithiau treftadaeth ddiwydiannol trwy ddefnyddio byrddau stori a chyfryngau cymdeithasol i gysylltu pobl ag ‘arloeswyr’ o’r Chwyldro Diwydiannol sy’n ymgorffori ysbryd antur a’r disgwyliadau a wynebodd y cannoedd ar filoedd o bobl a symudodd yn gyflym i’r ardal yn ystod y cyfnod cyffrous yma yn hanes Cymru.
I lawrlwytho’r teithiau, ewch i: www.visitblaenavon.co.uk/TVTCTW/Pioneers; dilynwch ni ar Facebook (The Valleys That Changed The World) neu Twitter @TVTCTW
Prosiect a arweinir gan CBS Torfaen a ran partneriaid cyhoeddus, preifat a thrydydd sector yw ‘Y Cymoedd a Newidiodd y Byd’ ac mae wedi derbyn arian gan Lywodraeth Cymru trwy Groeso Cymru.