Diwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon 2018 – Dydd Sadwrn 30 Mehefin 11am – 4pm Bydd seren X Factor ac Only Boys Aloud, Russell Jones yn arwain Diwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon ar ddydd Sadwrn 30 Mehefin.
Un o uchafbwyntiau’r diwrnod fydd yr orymdaith gwisgoedd treftadaeth boblogaidd, a fydd yn dathlu hanes cymdeithasol Blaenafon eleni.
Mae croeso i unrhyw un, yn arbennig grwpiau chwaraeon a chymunedol, i ymuno â’r orymdaith. blaenavon.tic@torfaen.gov.uk
Bydd stondinau, adloniant ar y stryd, bwyd a diod a ffair.
Canolfan Treftadaeth y Byd a Llyfrgell Blaenafon Ymunwch â ni yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd a Llyfrgell Blaenafon dros yr haf i fwynhau amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau i’r teulu i gyd. Dydd Sadwrn 30ain Mehefin – o hanner dydd
Dathliadau Diwrnod Treftadaeth y Byd gyda Bandiau Pres a Dawnsio Gwerin yn nhiroedd y Ganolfan Treftadaeth. Mynediad am ddim Dydd Sul yn ystod Gorffennaf ac Awst
Dewch i ymuno â ni yn nhiroedd Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon. Gwrandewch ar y bandiau pres, gwelwch bicnic y Tedi-Bêrs a mwynhewch fwyd a diod o’r Ystafelloedd Te Treftadaeth. Bydd mwy o fanylion ar www.visitBlaenafon.co.uk
Ffôn: 01495 742333
e-bost: Blaenafon.tic@torfaen.gov.uk
Grŵp Amgylcheddol Treftadaeth y Byd Blaenafon Noson Ystlumod ac Adar y Nos. 9fed Mehefin 2018 gan ddechrau am 9:15pm.
Fel rhan o Wythnos Bioamrywiaeth Cymru byddwn yn recordio ystlumod ac adar y nos gan ddefnyddio Coetir Cymunedol Blaenafon. Byddwn yn edrych ac yn gwrando ar y Troellwyr Mawr hynod yn dod allan o’r coed i hela ar draws y waun, a byddwn yn defnyddio synwyryddion ystlumod acwstig i droi eu galwadau lleoliad adlais uwchsain yn rhai y gallwn glywed
Taith gerdded ar hyd Lwybr Cudd Ger-yr-efail. 30ain Mehefin 2018 gan ddechrau am 2.00pm.
Man cychwyn = Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon. Taith gerdded ar brynhawn Diwrnod Treftadaeth o tua 4 cilometr (2½ milltir) sy’n addas i deuluoedd. Bydd y daith yn cyflwyno rhan o Flaenafon a dyfodd o gwmpas y diwydiant haearn cynnar ac sydd dal yn bwysig heddiw.
Gwybodaeth bellach: https://www.facebook.com/BWHEG/ ne http://www.bwheg.wales/ i wybod y diweddaraf ar y digwyddiadau yma.
Neuadd y Gweithwyr, Blaenafon Swan Lake yn fyw o'r Tŷ Opera Brenhinol – 12fed Mehefin
Mae’r Bale Brenhinol yn cyflwyno cynhyrchiad newydd o fale godidog Tchaikovsky, gyda dawnsnodiant ychwanegol gan Scarlett. Pris Tocyn £12.50 - £15.00*
Edrychwch ar y digwyddiadau eraill sydd yn y neuadd yn ystod y mis yma.
Swyddfa Docynnau: 01495 792661
Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon Penwythnos Rheilffyrdd Model – 9fed a 10fed Mehefin – 11am – 4pm. Dros 10 o osodiadau. £3.00/£2.00 consesiynau. *Mynediad am ddim gyda thocyn dwyffordd dilys.
Y Rhyfel Byd 1af yn dod i Weithfeydd Haearn Blaenafon Dydd Sadwrn 2il Mehefin a Dydd Sul 3ydd Mehefin 2018 – 11am – 4pm Coffâd o’r Rhyfel Byd Cyntaf, gydag ail-greu’r Rhyfel Mawr a hanes byw, Pwnsh a Jwdi, arddangosfeydd o arfau, arddangosfeydd gof a chrefftau ac Arddangosfa Gwent yn y Rhyfel Mawr. Bydd y Lleng Brydeinig Frenhinol yn bresennol. Sgyrsiau ar arddangosfeydd ar fywyd yn ystod y Rhyfel Mawr. Mwy o Wybodaeth
Gwledd Sul Y Tadau 17 Mehfin – 11am – 4pm
Ymunwch a ni yn Big Pit I fwynhau bwyd a diod, adloniant am ddim I’r teulu a paned a phicen am ddim i Dad. Manylion pellach